MAESTRA DI CAPPELLA
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Maria Rosa Coccia (1759-1833) a cherddoriaeth gorawl y ddeunawfed ganrif yn Rhufain.
Ymunwch â Chôr Siambr Prifysgol Caerdydd i ddathlu bywyd a cherddoriaeth merch oedd yn gyfansoddwr pwysig yn y cyfnod clasurol, Maria Rosa Coccia. Ganed hi yn Rhufain ac ’roedd yn ddisgybl i’r organydd a chorfeistr Rhufeinig Santa Pesci. Graddiodd Maria yn Accademia d Santa Cecilia yn 1774 yn 15 oed ( a hynny wedi iddi eisoes gyfansoddi sonatau i allweddell a dwy oratorio ac ar ôl hynny, a hithau’n ferch, yr unig maestra di cappella yn y ddeunawfed ganrif yn Rhufain. Yn ddiweddarach cafodd yr un anrhydedd yn yr Accademia Filarmonica di Bologna. ’Roedd hi’n gwbl gartrefol mewn llawer math o gyfansoddi - i offerynnau, opera, oratorio a cherddoriaeth eglwysig.
Roedd hi’n uchel ei pharch ymhlith ei chyfoedion ond, er mawr siom cefnodd ar gyfansoddi pan oedd yn 30 oed. Mae’r darnau yn y cyngerdd hwn wedi eu trasgyweirio a’u golygu gan Peter Leech o’r llawysgrifau gwreiddiol. Perfformir darnau crefyddol gorau Maria fel rhagflas o CD fydd yn cynnwys yr holl ddarnau, a bydd hyn yn gymorthi i sefydlu statws haeddiannol iddi yn hanes cerddoriaeth eglwysig Ewropeaidd.
Rhaglen i gynnwys:
Maria Rosa Coccia: Dixit Dominus, Veni Creator Spiritus, Magnificat
Sante Pesci: Ave Maria
Sebastiano Bolis – Cinque Assoluzzione
Giovanni Battista Casali – Ad te levavi
EGLWYS ST AUGUSTINE PENARTH
3 St Augustine's Place
Penarth
CF64 1BA