Ewch i’r prif gynnwys

Cornel Tsieina: Addysg yn Tsieina

Dydd Iau, 24 Mawrth 2022
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Students working at their desks.

Mor gynnar â chyfnod Teyrnas Shang (16eg ganrif CC - 11eg ganrif OC), arysgrifau ar esgyrn neu gregyn crwbanod oedd cofnodion syml dysgu ac addysgu. Yn Nheyrnas Gorllewin Zhou (11eg ganrif CC - 771 CC), fe adeiladodd yr uchelwyr ysgolion i addysgu eu plant gan mai nhw fyddai swyddogion y dyfodol. Fe gafodd yr addysgwr blaenllaw Confucius, sef y sawl y mae ein sefydliad wedi’i enwi ar ei ôl, ddylanwad enfawr hefyd ar ddatblygiad cynnar addysg yn Tsieina.

Dros amser, mae’r system addysg yn Tsieina wedi gorfod tyfu ac addasu er mwyn mynd i’r afael â heriau newydd, ac mae bellach y system addysg fwyaf yn y byd. Gyda bron 260 miliwn o fyfyrwyr a thros 15 miliwn o athrawon mewn tua 514,000 o ysgolion (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol Tsieina, 2014), heb gynnwys sefydliadau addysg graddedig, mae system addysg Tsieina yn enfawr yn ogystal ag amrywiol.

Yn y drafodaeth hon a gynhelir fin nos, byddwn yn cyflwyno hanes addysg Tsieineaidd, yn egluro sut mae wedi datblygu dros amser, a sut mae’n paratoi plant o bob oed, cefndir a gallu ar gyfer bywyd modern yn Tsieina a’r tu hwnt.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei ffrydio'n fyw ar Zoom a byddwn yn anfon y dolenni a'r manylion mewngofnodi atoch pan fyddwch yn cofrestru.

Rhannwch y digwyddiad hwn