Ewch i’r prif gynnwys

Proffilio galluoedd ieithyddol plant dwyieithog sydd ag anableddau datblygiadol yng Nghymru - Dr Rebecca Ward

Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2022
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yn aml, mae gan blant sydd ag anableddau datblygiadol fel syndrom Down (DS) neu Awtistiaeth, anawsterau dysgu iaith. O ganlyniad, mae pryderon wedi’u mynegi ynghylch gallu'r plant hyn i gaffael dwy iaith (neu ragor), a gallai rhieni gael eu cynghori i ddefnyddio un iaith yn unig gyda hwy. Mae'r ymchwil hon yn edrych ar broffiliau iaith plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg gyda syndrom Down a phlant sy’n datblygu mewn modd nodweddiadol, o'u cymharu â’r rhai sy’n siarad un iaith yn unig. Y nod yw amlygu'r ffactorau sy'n gysylltiedig â galluoedd iaith yn y grwpiau hyn. Byddwn yn trafod dulliau clinigol ac addysgol pwysig o gymhwyso'r canfyddiadau yn ogystal â chynigion ar gyfer datblygu ymchwil yn y maes hwn yn y dyfodol.

Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn