Golwg ar y beirdd yng nghwmni Ellis Wynne a Theophilus Evans
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Trwy gydol hanes, caiff Cymru ei galw’n wlad y beirdd. Bydd y papur hwn yn archwilio sut y gwnaeth Ellis Wynne yn Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (1703) a Theophilus Evans yn Drych y Prif Oesoedd (1740) ymwneud â’r beirdd yn eu testunau hwy. Byddaf yn dadlau fod y beirdd o bwys iddynt a’i bod yn dymuno i'r beirdd barhau i gael rôl amlwg ymhlith y Cymry. Wrth archwilio defnydd y ddau o’r beirdd a’r traddodiad barddol cynigir cipolwg ar arwyddocâd beirdd a barddoniaeth yng Nghymru ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Bydd y papur hwn o ddiddordeb i'r sawl sydd â diddordeb yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar a beirdd a barddoniaeth yn fwy cyffredinol.
Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.