Ewch i’r prif gynnwys

Cyfryngau Prydain a’r modd y caiff pobl Japan eu cynrychioli ynddynt

Dydd Mercher, 2 Chwefror 2022
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

P Hinton

Dyma’r chweched digwyddiad yng Nghyfres Ddarlithoedd Caerdydd-Japan, y tro hwn gyda'r Athro Perry Hinton (Prifysgol Warwick). Noddir y digwyddiad gan Sefydliad Japan Rhwydwaith Sakura.

Crynodeb
Ers i deithwyr o Bortiwgal gyrraedd yno am y tro cyntaf yn y 16eg ganrif, canfyddiad pobl Ewrop o Japan yw ei fod yn lle rhyfedd ac egsotig, sydd wedi golygu bod pobl Japan yn cael eu darlunio mewn testunau Gorllewinol, ers dros bum can mlynedd, drwy gynrychioliadau o wahaniaeth.  Yn yr 20fed ganrif, mae'r cynrychioliadau hyn yn aml wedi cynnwys defnyddio stereoteipiau penodol o bobl Japan, yn gysylltiedig â chanfyddiadau Gorllewinol ohonynt, yn amrywio o bryder i edmygedd, o fewn cyd-destunau hanesyddol a rhyngddiwylliannol penodol. Dadleuir yn y cyflwyniad hwn bod hyn yn dal i fod yn wir yn aml yn yr 21ain ganrif. Yn wir, caiff adroddiadau cyfryngau Prydeinig am Japan eu harchwilio i ddangos stereoteipiau modern o bobl Japan. Gan gymryd safbwynt seicolegol diwylliannol, dadleuir bod stereoteipiau'n codi mewn cyd-destun diwylliannol, ac yn aml maent yn datgelu mwy am y bobl sy'n gwneud y stereoteipio na'r rheini sy'n cael eu stereoteipio. Yn wir, gall cynrychioliadau yn y cyfryngau Prydeinig o bobl Japan ddweud mwy wrthym am obeithion a phryderon Prydeinig mewn perthynas â'r Japaneaid, yn hytrach nag unrhyw beth perthnasol am feddylfryd neu gymeriad penodol Japaneaidd.

Bywgraffiad
Mae'r Athro Perry Hinton yn seicolegydd diwylliannol yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Warwick. Mae ganddo raddau o Warwick a Birkbeck (Llundain), a doethuriaeth o Brifysgol Rhydychen ar wybyddiaeth ac iaith. Mae wedi gweithio mewn nifer o brifysgolion ym Mhrydain: yn addysgu ar raddau seicoleg, ac ar raglenni rhyngddisgyblaethol ar ddiwylliant a'r cyfryngau, yn ogystal ag ymgymryd â rolau rheoli uwch.  Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng diwylliant a gwybyddiaeth.

Mae ei lyfr diweddar, Stereotypes and the Construction of the Social World, 2020, yn herio'r farn academaidd Orllewinol fod stereoteipiau'n fath o "wall" meddyliol ac mae'n cynnig model diwylliannol o stereoteipiau, sy'n gallu esbonio'r data ymchwil yn well na'r dull gwybyddol presennol. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o erthyglau ymchwil am gynrychioliadau Gorllewinol o bobl Japan. Er ei fod yn wybodus am hanes a diwylliant Japan, ei brif ddiddordeb yw'r cyd-destunau rhyngddiwylliannol y mae amrywiol stereoteipiau o bobl Japan wedi dod i'r amlwg ynddynt. Felly, mae'n ystyried ei fod yn fwy o arbenigwr ar ganfyddiadau Gorllewinol o Japan nag ar Japan ei hun. Mae wrthi'n gweithio ar ei lyfr nesaf, Japan and the Western Imagination, a gyhoeddir yn 2023.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mercher 26 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.CofrestruMae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.


Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn