Ewch i’r prif gynnwys

Addysg drwy drochi hwyr: adolygiad cwmpasu cyflym a mapio’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yng Nghymru

Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2022
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae Dr Mirain Rhys (Prifysgol Met Caerdydd) a Katharine Young (PhD, Prifysgol Caerdydd) yn rhannu eu canfyddiadau o ddau brosiect ymchwil a gwblhawyd ganddynt tra’n gweithio ar secondiad yn Llywodraeth Cymru yn 2021.

Bydd Dr Mirain Rhys yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad cwmpasu cyflym (ACC) yn ymwneud â throchi hwyr, trefniadau dysgu iaith dwys a darpariaeth iaith i ddisgyblion sydd wedi cael toriad neu fwlch yn eu profiad trochi. Nod yr adolygiad oedd nodi ymchwil sy'n trafod dulliau neu ymyriadau sy'n ymwneud â throchi hwyr a dysgu iaith dwys, ac sy'n berthnasol i gyd-destun presennol y Gymraeg mewn addysg yng Nghymru.

Bydd Katharine Young yn cyflwyno canfyddiadau ymarfer mapio sydd yn archwilio addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr (ar gyfer hwyrddyfodiaid) mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru. Nod yr ymarfer mapio hwn oedd llunio darlun o’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr oedd yn bodoli mewn rhai awdurdodau addysg lleol ar y pryd, a deall rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn codi wrth i’r ddarpariaeth gael ei chynllunio a’i rhoi ar waith.

Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn