Ewch i’r prif gynnwys

Ypres a Hiroshima: Tystiolaeth Llygad-Dyst, Cof Trawswladol ac Arferion Coffa

Dydd Mercher, 15 Rhagfyr 2021
Calendar 13:30-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Girl using phone in street

Mae'r thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang Seiliedig ar Iaith yn falch iawn o gynnal papurau gan ddau fyfyriwr PhD ail flwyddyn, Lauren Constance ac Andrew Mooney. Mae'r ddau siaradwr yn cyfeirio at ddatblygiadau pwysig mewn arferion coffa a’r heriau sy'n wynebu amgueddfeydd wrth iddynt geisio cysylltu ag ymwelwyr.

Papur 1: Tystiolaeth llygad-dyst yn Amgueddfeydd Coffa Japan – Lauren Constance

Crynodeb

Bomio Hiroshima dros 75 mlynedd yn ôl oedd y tro cyntaf i arfau niwclear gael eu defnyddio mewn rhyfel. Roedd effaith y bom yn ddinistriol ac mae'n parhau i effeithio ar bobl heddiw. Fel digwyddiad digynsail mewn hanes dynol, mae'r bomio'n parhau i gael ei gofio mewn digwyddiadau coffa ac amgueddfeydd. Fodd bynnag, mae llygad-dystion i ddigwyddiadau hanesyddol, megis bomio Hiroshima, yn ein gadael ni, a chyda hwy eu mewnwelediadau personol i'r gorffennol. Er bod ymchwilwyr fel de Jong (2018) wedi dadlau, yn yr oes ddigidol, fod tystiolaeth fideo llygad-dyst yn rhan annatod o amgueddfeydd coffa, efallai na fydd hyn yn wir yn Japan. Felly, mae'r papur hwn yn mynd i'r afael â'r mater o goffáu tystiolaethau llygad-dyst mewn amgueddfeydd yn Japan. 

Yn ei hymchwil flaenorol, mae Lauren Constance wedi edrych ar sut y defnyddir tystiolaeth fideo yn Amgueddfa Goffa Heddwch Hiroshima. Fodd bynnag, yn ei hymchwil gyfredol, defnyddir mwy o amgueddfeydd o wahanol fathau i gael dadansoddiad ehangach o arferion coffa mewn amgueddfeydd ledled Japan. Felly, ei chwestiwn ymchwil cyffredinol yw: 'Sut mae amgueddfeydd coffa yn arddangos tystiolaeth llygad-dyst yn Japan?'. Drwy ymchwil ar-lein ac ymweliadau gwaith maes (a fydd, gobeithio, yn digwydd yn gynnar yn 2022) i wahanol amgueddfeydd yn Japan, bydd yn dadansoddi sut mae'r sefydliadau hyn yn arddangos tystiolaeth fideo ac yn archwilio amrywiadau yn eu harferion. 

Yn y papur hwn, bydd Lauren yn crynhoi canfyddiadau allweddol ei Hadolygiad Llenyddiaeth ac yn trafod rhai enghreifftiau o'r astudiaethau achos amgueddfa y mae'n ymchwilio iddynt ar hyn o bryd.

Bywgraffiad
Mae Lauren Constance yn fyfyrwraig PhD ail flwyddyn yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Ei goruchwylwyr yw Dr Christopher Hood a Dr Ruselle Meade.


Papur 2: Cof Trawswladol: Llunio Profiadau Twristiaid Prydeinig yn Ypres - Andrew Mooney

Crynodeb

Mae'r cysyniad o 'gof trawswladol' wedi dod i'r amlwg fel prif nodwedd 'trydydd cam' astudiaethau’r cof. Daw hyn gyda newid ffocws o'r syniadau statig o goffáu mewn safleoedd coffa i'r ddealltwriaeth haenog o 'gysyniadoli perthynol o le a gofod' (Wüstenberg 2019, t.374). Mae'r ddealltwriaeth o gof trawswladol yn allweddol i brofiad ymwelwyr, yn enwedig mewn safleoedd fel y rhai yn Ypres a’r cyffiniau lle mae henebion cenedlaethol yn aml yn agos at rai gwledydd eraill, gan felly ddenu twristiaid o bob cwr o'r byd. Drwy gydol yr ugeinfed ganrif mae Ypres wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer coffáu a chofio i dwristiaid o Wlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, gwledydd Prydain a gwledydd eraill y Gymanwlad a’u hatgofion personol, cenedlaethol a theuluol. O'r herwydd, nid oes unrhyw gofeb Brydeinig yn bodoli mewn gwactod. Mae'r rhyngweithiadau hyn rhwng twristiaid a chofebau cenedlaethol wedi'u fframio gan y gofod y maent ynddo ond hefyd yn dod ag ymwelwyr i gysylltiad â chofebau a sefydlwyd gan genhedloedd ar wahân i'w diwylliannau coffa unigryw eu hunain. Mae hyn i gyd yn llywio'r profiad i dwristiaid, gan awgrymu cyfres gymhlethach o ryngweithiadau rhwng twristiaid o wledydd Prydain a'u hamgylchoedd nag a nodwyd o'r blaen. Mae'r cysyniad hwn yn cyd-fynd â'r dull cosmopolitan o gofio'r Rhyfel Mawr sydd wedi'i ffafrio yng Ngorllewin Ewrop yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ym Mhrydain, mae Ewrosgeptigiaeth wedi codi o fewn yr un cyfnod, a nod prosiect Andrew Mooney yw taflu goleuni ar sut mae'r tensiwn hwn yn effeithio ar brofiadau ymwelwyr Prydeinig yn Ypres.

Bywgraffiad
Mae Andrew Mooney yn ymchwilydd ôl-raddedig ail flwyddyn yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau twristiaid Prydeinig yn Ypres, Gwlad Belg a'r cyfosodiad rhwng twf Ewrosgeptigiaeth ym Mhrydain ac awyrgylch coffa cynyddol gosmopolitan a 'thrawswladol' o ran y Rhyfel Mawr ar gyfandir Gorllewin Ewrop.

Fformat y digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel cyfarfod Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 1 Rhagfyr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn