Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu canmlwyddiant darganfod inswlin - ble nesaf?

Dydd Iau, 11 Tachwedd 2021
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

SiH lecture series logo

Mae inswlin yn hormon rhyfeddol sy'n anhepgor o ran cynnal metabolaeth ac mae’n hanfodol i fywyd.  Pan fydd y celloedd yn y corff sy'n creu inswlin yn cael eu difrodi gan y system imiwnedd, bydd pobl yn datblygu diabetes Math 1.

Rydyn ni’n tynnu sylw at y datblygiadau gwyddonol sydd wedi arwain at 3 gwobr Nobel ers darganfod inswlin, ac yn sgîl y ffaith bod mwy o wybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal â thechnoleg newydd, rydyn ni hefyd yn edrych ar y ffordd mae bywyd wedi newid i bobl sydd â diabetes Math 1.

Sut bydd ein gwybodaeth bresennol yn llywio'r dyfodol i bobl sy'n byw yn sgîl diabetes Math 1, a beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran triniaethau neu wellhad?

Rhannwch y digwyddiad hwn