Ewch i’r prif gynnwys

Stacey Lowery Bretz (Prifysgol Miami)

Dydd Mercher, 8 Rhagfyr 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Stacey Lowery Bretz  (Miami University)

Mae pob myfyriwr coleg sy'n dewis gwyddoniaeth neu beirianneg fel eu prif lwybr yn dilyn nifer o gyrsiau labordy drwy gydol eu cyfnod yn y coleg. Er nad oes gennym y gallu i ddychmygu dysgu heb labordy, nid oes llawer o dystiolaeth i gael sy’n awgrymu bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu sy’n fuddiol iddynt ar y cyrsiau hyn. Yn gyffredinol, mae dysgu mewn labordy yn cael ei ddefnyddio i brofi’r egwyddorion sy’n cael eu cyflwyno mewn darlith. Yn hytrach, dylai’r math hwn o ddysgu ganolbwyntio ar archwilio a datblygu cysyniadau. Un her o ran mesur sut mae myfyrwyr yn dysgu yn y labordy yw mai ychydig o offer penodol sydd ar gael i fesur hyn mewn labordy. Bydd y seminar hwn yn disgrifio datblygiad dau ddull asesu pwrpasol.

 

Er mwyn i fyfyrwyr ddysgu, mae’n rhaid iddynt greu’r cysylltiad rhwng yr hyn y maent yn gwybod yn barod â’r hyn y byddant yn ei ddysgu. Er mwyn i fyfyrwyr ddysgu mewn modd ystyrlon, yn ogystal â chanolbwyntio ar feddwl a gwneud yn y labordy, mae’n rhaid iddynt dynnu ar eu teimladau a'u credoau. Fe wnaethom ni ddatblygu’r Dull Dysgu Mewn Modd Ystyrlon yn y Labordy (MLLI) i fesur disgwyliadau gwybyddol ac affeithiol myfyrwyr israddedig ar gyfer cynnal arbrofion yn y labordy cemeg ac i gymharu'r disgwyliadau hynny â'u profiadau. Mae barn myfyrwyr am eu deallusrwydd, sef eu meddylfryd, yn dibynnu ar gyd-destun ac nid oes sylw wedi’i roi i’w meddylfryd mewn sesiynau dysgu mewn labordai yn y gorffennol. Mae meddylfryd myfyrwyr yn adlewyrchu eu hymagweddau o ran ymdrech a gallu wrth iddynt gyfrannu at lwyddiant, yn enwedig os ydynt wedi drysu, yn ansicr neu’n gwneud camgymeriadau yn y labordy. Fe wnaethom ni ddatblygu’r dull Meddylfryd Gwybodaeth yn y Labordy Cemeg (IMCL) i fesur meddylfryd myfyrwyr. Bydd y seminar hon yn cyflwyno data o nifer o brosiectau ymchwil gan ddefnyddio'r dulliau MLLI ac IMCL i ymchwilio i ddisgwyliadau myfyrwyr ar gyfer dysgu mewn labordy cemeg yn y brifysgol, eu profiadau ar y cyrsiau hyn, a'u barn am ddeallusrwydd yn labordy cemeg yn y brifysgol. Bydd y goblygiadau ar gyfer addysgeg ac asesu ar gyrsiau labordy yn y brifysgol yn cael eu trafod

 

Rhannwch y digwyddiad hwn