Ewch i’r prif gynnwys

Andy diSessa (Prifysgol California, Berkeley)

Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Andy diSessa

Dros gyfnod o sawl degawd, rydw i a'm cydweithwyr wedi datblygu damcaniaeth gwybodaeth reddfol ac rydym wedi’i defnyddio'n helaeth wrth ddysgu ac arwain. Fe wna i ddechrau gyda chrynodeb o'r gwaith hwn, gan ei osod yng nghyd-destun ymchwil newid cysyniadol. Yna, ym mhrif ran y sgwrs, byddaf yn adolygu rhywfaint o'r gwaith mwy diweddar sydd wedi ymestyn a mireinio'r theori wreiddiol, ac sydd wedi dangos sut mae defnyddio’r theori i ddysgu myfyrwyr yn y byd go iawn. Byddaf yn cyflwyno astudiaeth achos o’r theori ar waith wrth ddylunio cyfarwyddiadau ar ecwilibriwm thermol, ac wrth olrhain y canlyniadau yn yr ystafell ddosbarth, gam wrth gam. Yn olaf, byddaf yn mynd yn ôl at ymchwil newid cysyniadol yn ehangach, gan nodi’r gwahaniaethau penodol rhwng y safbwyntiau eraill ar newid cysyniadol, a'r problemau y mae ein data'n cyflwyno.

Rhannwch y digwyddiad hwn