Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Mandarin ar gyfer athrawon

Calendar Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021, 18:00-Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021, 19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Teacher in adult Mandarin Chinese class

Sefydliad Confucius Caerdydd Yn Eich Gwahodd I Ymuno Â'n Cwrs Ar-lein 6 Wythnos O Hyd Rhad Ac Am Ddim (*Tachwedd - canol Rhagfyr).

Cynhelir ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim, Cyflwyniad i Mandarin i Athrawon, am awr yr wythnos dros chwe wythnos. Siaradwr Tsieinëeg brodorol sy’n ei addysgu a byddwch yn dysgu hanfodion yr iaith. Bydd hyn yn caniatáu i chi ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol yn ogystal â helpu eich disgyblion i ddysgu.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs, cewch gyfle hefyd i symud ymlaen i gwrs Tsieinëeg i Ddechreuwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi’i ariannu’n llawn ym mis Ionawr neu fis Mai 2022.

Pam ddylwn i wneud y cwrs hwn?

  • Dysgu hanfodion Tsieinëeg Mandarin
  • Cyflwyno iaith newydd i'ch disgyblion
  • Datblygu eich hun yn broffesiynol neu'n bersonol
  • Symud ymlaen i gwrs Mandarin RHAD AC AM DDIM Prifysgol Caerdydd
  • Cefnogi eich disgyblion gyda'u hastudiaethau Tsieinëeg
  • Profiad o ddiwylliant gwahanol
  • Byddwch yn rhan o integreiddio iaith ryngwladol yn eich ysgol yn barod ar gyfer y Cwricwlwm Newydd

I fynegi eich diddordeb a'r diwrnod/amser sydd orau gennych, cofrestrwch yma erbyn 10am ddydd Llun 1 Tachwedd.

Rhannwch y digwyddiad hwn