Ewch i’r prif gynnwys

Prydain Ôl-Sosialaidd? Naratifau yr Almaen a Gwlad Pwyl yng Ngwasg y DU

Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2021
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Girl walking in the street with smart phone in hand

Gweminar gyda'r siaradwr gwadd Dr Charlotte Galpin (Prifysgol Birmingham) fel rhan o thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang sy'n Seiliedig ar Iaith yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Bydd Yr Athro David Clarke, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern, yn trafodwr yn ystod y weminar.

Crynodeb
Mae'r papur hwn yn cyflwyno gwaith cynnar ar elfen y cyfryngau yn y prosiect newydd a gyllidir gan yr AHRC ‘Post-Socialist Britain? Memory, Representation and Political Identity amongst German and Polish Immigrants in the UK’. Mae'r prosiect yn edrych ar y cysylltiadau rhwng cof cyfunol a hunaniaeth wleidyddol yn y broses o fudo, gyda ffocws penodol ar wledydd â phrofiad o reolaeth wladwriaethol sosialaidd. Fel man cychwyn, mae ‘Post-Socialist Britain?’ yn edrych ar dwf y gefnogaeth i bleidiau gwrth-fewnfudo, ar y dde radical ac Ewrosgeptig ar draws Ewrop. Esboniwyd y ffenomen hon yn aml yn y cyd-destunau hyn fel rhywbeth sy'n seiliedig ar gof cyfunol o awdurdodyddiaeth. Ond mae'r rheini sy'n cyflwyno esboniadau o'r fath fel arfer yn tybio bod y bobl sy'n cofio awdurdodyddiaeth yn cofio hynny yn eu gwlad enedigol. Gan ddefnyddio astudiaethau achos mudwyr o'r Almaen a Gwlad Pwyl yn y DU, mae Post-Socialist Britain? yn torri'r patrwm cenedlaethol hwn i ystyried a yw'r cof yn gysylltiedig â hunaniaeth wleidyddol pan fydd yr unigolyn yn symud i gyd-destun cenedlaethol newydd, a sut.

Mae elfen cyfryngau'r prosiect yn ceisio deall y gofod disgyrsiol y mae Almaenwyr a Phwyliaid yn y DU yn llunio eu hunaniaethau gwleidyddol ynddo a sut y gallai hyn ryngweithio gydag atgofion o'u gwlad enedigol. Mae'r maes cyhoeddus yn bwysig ar gyfer hunaniaeth wleidyddol: mae'n lle ar gyfer cyfranogiad a chydsefyll democrataidd ond mae hefyd yn lle sy'n eithrio grwpiau a gaiff eu hymylu. Felly mae'r graddau a'r ffordd y caiff mudwyr ôl-sosialaidd eu trin ac y gallant gyfranogi fel aelodau o'r gymuned wleidyddol yn dod yn hollbwysig. Gan ddefnyddio dadansoddiad ffrâm naratif, rydym ni'n archwilio cynrychioliadau o hanes yr Almaen a Gwlad Pwyl a mudo Almaenig a Phwylaidd yn y papurau newydd trwm a thabloid mwyaf poblogaidd ar-lein yn y DU ar adegau allweddol rhwng 2014 a 2019. Drwy ein dadansoddiad, rydym ni'n archwilio i ba raddau mae atgofion o sosialaeth wladwriaethol yn cael eu cyfryngu mewn ffyrdd sy'n ystyried patrymau mudo amrywiol y DU.

Bywgraffiad
Mae Dr Charlotte Galpin yn Uwch-ddarlithydd mewn Almaeneg a Gwleidyddiaeth Ewropeaidd yn yr Adran Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Birmingham. Mae ganddi PhD mewn Gwyddor Wleidyddol ac Astudiaethau Rhyngwladol ac MA mewn Integreiddio Ewropeaidd o Brifysgol Birmingham, a BA mewn Astudiaethau Ffrengig ac Almaenig o Brifysgol Warwick. Yn flaenorol, bu'n gymrawd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Copenhagen ac yn Gymrawd Addysgu ym Mhrifysgol Caerfaddon. Yn nhymor yr hydref 2019/20 hi oedd Athro Gwadd Alfred Grosser mewn Ymchwil Cymdeithas Sifil yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Goethe Frankfurt am Main. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaethau Ewropeaidd, dinasyddiaeth yr UE, Eurosgeptigiaeth a'r maes cyhoeddus Ewropeaidd, gan ganolbwyntio'n benodol ar y DU a'r Almaen ac, yn ei gwaith diweddar, mae'n cymhwyso ymagweddau rhywedd a ffeministaidd i ymdrin â'r materion hyn. Mae wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion gan gynnwys Citizenship Studies, Comparative European Politics, Journal of Common Market Studies, Social Movement Studies, German Politics and Society, Journalism Practice, a'r British Journal of Politics and International Relations. Cyhoeddwyd ei monograff, The Euro Crisis and European Identities: Political and Media Discourse in Germany, Ireland and Poland, yn 2017 gan Palgrave Macmillan.

Trefn y Digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel Zoomwebinar ac ni fydd yn cael ei gofnodi.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 10 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn