Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2021

Dydd Iau, 11 Tachwedd 2021
Calendar 10:55-11:20

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Remembrance

Cynhelir Diwrnod y Cadoediad ddydd Iau 11 Tachwedd 2021 a hoffem estyn gwahoddiad i staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd i ymuno â ni yn y Gwasanaeth Coffa yn Oriel Viriamu Jones yn y Prif Adeilad. Mae’n rhaid ichi gadw eich lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig iawn.

Yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, y Caplan Cydlynu, y Barchedig Delyth Liddell, a Chaplaniaeth Aml-ffydd y Brifysgol fydd yn arwain y Gwasanaeth.

Byddwn yn ffrydio'r digwyddiad yn fyw a chaiff y sawl  sy'n dymuno gwylio Gwasanaeth Coffa’r Brifysgol ar-lein, a chadw’r distawrwydd am ddwy funud, wneud hynny ar wefan y Brifysgol  o 10:55 ymlaen.

Watch the Act of Remembrance 2021

Canllawiau Diogelwch ar gyfer mynd i ddigwyddiad ar y campws

Bydd y Gwasanaeth Coffa yn cael ei gynnal yn unol â Chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Oherwydd canllawiau a chyfyngiadau cyfredol y Llywodraeth o ran pobl sy’n dod ynghyd, bydd nifer cyfyngedig o leoedd yn ystod y digwyddiad hwn. Er mwyn sicrhau diogelwch ein hymwelwyr, gofynnwn ichi gadw at y mesurau diogelwch sydd ar waith yn ein hadeiladau:

Mae COVID-19 yn ymledu yn sgîl anadlu gronynnau’r feirws sydd yn yr awyr a/neu yn sgîl cyffwrdd ag arwyneb y mae’r feirws arno ac wedyn gyffwrdd â’ch wyneb ar ôl hynny. Felly, mae’n rhaid ichi fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • rhoi gwybod inni os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn dioddef o COVID-19 ac rydych chi’n dilyn canllawiau’r Llywodraeth
  • hylendid personol effeithiol (defnyddio hances bapur wrth besychu neu disian a’i rhoi yn y bin)
  • hylendid dwylo effeithiol
  • osgoi cyffwrdd â’ch trwyn, eich ceg a’ch llygaid

Cyn cyrraedd yr adeilad, gofalwch eich bod yn dod â gorchudd wyneb gyda chi. Mae’n ofynnol ichi wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do yn y Brifysgol, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Defnyddiwch y mynedfeydd a’r allanfeydd, a dilynwch yr arwyddion i weld pa ffordd i gerdded o amgylch yr adeilad.

Ewch i’r dderbynfa i roi gwybod eich bod wedi cyrraedd

Defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo pan fyddwch chi’n mynd i mewn i adeilad neu’n ymadael ag ef.

Byddwch yn ystyriol o bobl eraill yn yr adeilad, a gofalwch eich bod yn cadw pellter cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl

Os bydd argyfwng, mae’n rhaid ichi ddefnyddio'r allanfa agosaf sydd fwyaf diogel. Anwybyddwch unrhyw arwyddion neu lwybrau sy’n ymwneud yn benodol â COVID-19. Mae ymadael â’r adeilad yn gyflym yn bwysicach na chadw pellter corfforol.

Cofiwch olchi eich dwylo'n rheolaidd drwy gydol y dydd.

Gweld Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2021 ar Google Maps
Oriel Viriamu Jones
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn