Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp darllen ar-lein: Trawswladoldeb a chreu canonau cenedlaethol

Dydd Iau, 18 Tachwedd 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Open book

Digwyddiad grŵp darllen ar-lein a drefnwyd gan y thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Byddwn ni’n trafod pennod a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y gyfres am Ieithoedd Modern Trawswladol. Bydd y sgwrs yn gyfle i fyfyrio ar sut mae dulliau trawswladol yn llywio ein haddysgu a'n hymchwil.

Byddwn ni’n darllen Benedict Schofield, 'Who is German?’ ‘Nineteenth-century Transnationalisms and the Construction of the Nation’ yn Rebecca Braun a Benedict Schofield, goln., Transnational German Studies, Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2020.

Mae llawer o'r addysgu a'r ymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn seiliedig ar ddull trawswladol; mae'n sail i'n cwricwlwm israddedig, ac mae llawer o'n hymchwilwyr yn gweithio ar bynciau sy'n drawswladol o ran eu natur, megis cyfieithu, ymfudo a chof.

Byddwn ni’n defnyddio pennod Schofield yn fan cychwyn i drafod i ba raddau y mae awduron canonaidd a ffigurau allweddol yn y cyd-destunau rydyn ni’n eu hastudio’n cael eu llunio gan y ‘trawswladol’. Byddwn ni hefyd yn mynd i'r afael â phynciau megis sut y gallwn ni feddwl yn hanesyddol am yr hyn sy’n drawswladol, a yw'r dull trawswladol yn wirioneddol drawsnewidiol, a sut beth fyddai dull mwy dad-drefedigaethol.

Fformat y digwyddiad: Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel cyfarfod Zoom ac ni fydd yn cael ei gofnodi.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 4 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn