Ewch i’r prif gynnwys

Hunaniaethau Du: Ymarfer Dinasyddiaeth Wrth-hiliol

Dydd Llun, 8 Tachwedd 2021
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white drawing of black women

Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf o ddau ddigwyddiad ar-lein ar bynciau fel hunaniaethau du, dinasyddiaeth, hiliaeth, dad-drefedigaethu a mentrau gwrth-hiliol o fewn cyd-destun Eidalaidd.

Mae'r digwyddiad cyntaf hwn wedi'i neilltuo ar gyfer pynciau hunaniaethau du, dinasyddiaeth, hiliaeth a dad-drefedigaethu o fewn cyd-destun Eidalaidd.  Mae'n dwyn ynghyd academyddion, ymchwilwyr ac awduron sydd wedi gweithio'n helaeth ar y materion hyn.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Eidaleg ac yn Saesneg. Mae'r gyfres seminarau yn bosibl oherwydd Ymddiriedolaeth Leverhulme ac Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys:

Yr Athro Loredana Polezzi (academydd);

Dr Angelica Pesarini (academydd ac ymchwilydd);

Nathasha Fernando (ymchwilydd a chreawdwr podlediadau);

Marilena Umuhoza Delli (awdur ac artist);

Oiza Q. Obasuyi (awdur ac ymchwilydd);

Djarah Kan (awdur).

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 25 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn