Ewch i’r prif gynnwys

Lleisiau Du: Adennill Mannau Gwrth-hiliol

Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2021
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white drawing of black women

Y digwyddiad hwn yw'r ail a’r olaf o ddau ddigwyddiad ar-lein ar bynciau fel hunaniaethau du, dinasyddiaeth, hiliaeth, dad-drefedigaethu a mentrau gwrth-hiliol o fewn cyd-destun Eidalaidd.

Mae'r ail ddiwrnod hwn yn canolbwyntio ar rai mentrau pwysig sydd â'r nod o greu mannau gwrth-hiliol a lluosog yng nghyd-destun yr Eidal. Mae'r sgwrs yn cynnwys creawdwyr podlediadau, artistiaid ac actifyddion.

Cynhelir y sesiwn hon yn Eidaleg ac yn Saesneg. Mae'r gyfres seminarau yn bosibl oherwydd Ymddiriedolaeth Leverhulme ac Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys:

Nathasha Fernando (creawdwr podlediad);
Benedicta Djumpah (creawdwr podlediad);
Emmanuelle Maréchal (creawdwr podlediad);
Mistura Allison (artist);
'Il Razzismo è una brutta storia'  (actifyddion).

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 27 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn