Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol 2021: Grymuso cyfreithiol cymunedol: fy nghymuned, fy llais, fy mhŵer
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Manteisiwch ar y cyfle hwn i gyfrannu at ddatblygu pecyn cymorth casglu tystiolaeth i gefnogi ymarferwyr, cyfreithwyr, cymunedau ac eraill i ddeall diwylliant, cyd-destun a lle yn well.
Credwn y gall y gyfraith fod yn offeryn effeithiol ar gyfer diogelu, adfer a gwella bywoliaeth cymunedau brodorol pan fo wedi'i gwreiddio yn anghenion, dyheadau ac uchelgeisiau'r gymuned. Ymunwch â ni i brofi ac ehangu ar y cysyniad o rymuso cyfreithiol a dysgu am yr heriau cymdeithasol, amgylcheddol a chyfreithiol sydd ynghlwm wrth brosiectau datblygu a sut y gallwn gydweithio i sicrhau eu bod yn cael y budd mwyaf posibl.