Ewch i’r prif gynnwys

Caffael ergatifedd yn y Fasgeg a’i ystyr cymdeithasol: y goblygiadau i amrywio sosioieithyddol

Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2022
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yn dilyn dulliau amrywio ieithyddol ym maes caffael iaith, mae'r astudiaeth hon yn edrych ar y ffordd y mae siaradwyr newydd y Fasgeg yn caffael nodwr -k yr ergatif. Dengys y data a gynhyrchwyd fod siaradwyr newydd, er eu bod yn amrywio’n fwy, yn dangos meistrolaeth gyson o ran rheolau mewnol craidd a strwythuro graddol yn seiliedig ar effeithiau amlder geiriau. Nid yw siaradwyr newydd yn dangos unrhyw wahaniaethau o ran yr ystyron cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag ergatifedd – mae hyn yn groes i siaradwyr traddodiadol sy'n cysylltu hepgor -k â 'siaradwyr newydd' a 'pheidio â bod yn awthentig'. Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod amrywio strwythuredig yn cael ei gaffael mewn modd tameidiog, a bod siaradwyr newydd yn gysylltiedig â thorri rheolau sawl math o berthynas gymdeithasol-fynegeiol a thraddodiadol o ran amrywio ieithyddol.

Caffael ergatifedd yn y Fasgeg a’i ystyr cymdeithasol: y goblygiadau i amrywio sosioieithyddol

Rhannwch y digwyddiad hwn