Ewch i’r prif gynnwys

Chwilio am y coedwigoedd cyntaf: deng mlynedd ar hugain o deithiau byd-eang

Dydd Mawrth, 12 October 2021
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

In search of the first forests: thirty years of global travels

Mae gan wyddonwyr daearol y fraint a’r pleser o archwilio pob rhan o’r byd, o’r pegynau i’r trofannau, o uchelfannau i ddyfnderoedd y môr a hyd yn oed y tu hwnt, wrth iddynt chwilio am y wybodaeth sy’n mynd i’r afael â heriau pwysig sy’n ymwneud â hanes y blaned.

Yn y gyfres hon, bydd arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yn cyflwyno adroddiadau am eu hanturiaethau yn y maes, ynghyd â’u hynt, eu helynt a’u boddhad yn y labordy wrth iddynt wneud y darganfyddiadau sydd wedi trawsnewid ein gwyddoniaeth.

Mae ein Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor meysydd o ddiddordeb yn y Ddaear a gwyddorau amgylcheddol a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Crynodeb

Ers dros 30 mlynedd mae Chris Berry wedi teithio i bellafoedd y byd i ehangu ein gwybodaeth am goedwigoedd cynhanesyddol a drawsnewidiodd y Ddaear yn y cyfnod Defonaidd, tua 380 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dros y tri degawd hyn, gwnaed llawer o ddarganfyddiadau sydd wedi llwyr newid y ffordd yr ydym yn dychmygu coedwigoedd hynaf y Ddaear, a sut rydym yn deall bod y coedwigoedd wedi rhyngweithio â System gynnar y Ddaear.

Bydd Chris yn mynd â chi ar daith o anialwch arctig yr Ynys Las a Svalbard i jyngls llaith De America, ac o rannau anghysbell o Tsieina i odre Mynyddoedd Catskill. Bydd yn dangos sut y darganfuwyd ffosiliau o goed cynnar, o'r celloedd a'r organau lleiaf i systemau gwreiddio helaeth a boncyffion, a sut mae'r rhannau'n cael eu hail-greu fel coed cyfan.

Yn sgîl tystiolaeth ddaearegol y coedwigoedd cynharaf ar ffurf ffosiliau, gallwn ni osod mathau gwahanol o goed mewn lleoliadau ecolegol penodol, a dechrau deall amrywiaeth y coedwigoedd a'r amgylcheddau y tyfai’r coedwigoedd cynharaf ynddyn nhw. Newidiodd y datblygiadau biolegol yn y coedwigoedd Defonaidd gyfansoddiad yr atmosffer a darparu'r adnoddau biolegol i'w trawsnewid yn ddiweddarach i goedwigoedd Glo Carbonifferaidd sy’n arwyddocaol i Dde Cymru.

Gweld Chwilio am y coedwigoedd cyntaf: deng mlynedd ar hugain o deithiau byd-eang ar Google Maps
Darlithfa Wallace (Ystafell 0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Voyages of great discoveries