Ewch i’r prif gynnwys

Ailddehongli'r Wladfa Gymreig

Calendar Dydd Llun 20 Medi 2021, 13:00-Dydd Mercher 22 Medi 2021, 14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ailddehongli’r Wladfa Gymreig

Symposiwm amlddisgyblaethol tairieithog ar y cyd

20-22 Medi 2021

Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd ac Adran Ieithyddiaeth a Llenyddiaeth Prifysgol Bremen

Bu canmlwyddiant a hanner y Wladfa Gymreig yn 2015 yn achos dathlu mawr yn Nhalaith Chubut ac yng Nghymru (heb anghofio am Lerpwl), ond yn fwy diweddar, bu’r Wladfa ym Mhatagonia yn destun cryn ddadlau ar y cyfryngau cymdeithasol. Ychydig o sylw a roddwyd er hynny i waith ymchwil diweddar nifer o academyddion (o Ewrop ac o Dde America) sy’n ailddehongli agweddau amrywiol ar y diaspora Cymreig ym Mhatagonia.

Ai ‘myth’ yw’r hanes am berthynas arbennig y Gwladfawyr Cymreig â phobloedd frodorol Patagonia? I ba raddau yr oedd Cymry Patagonia yn ymwrthod â Phrydeindod? Ai’r un Wladfa yw Patagonia’r Cymry a Thalaith Chubut yr Archentwyr? A pham fod tuedd i’r Chwith Gymreig heddiw anwybyddu gwreiddiau sosialaidd Y Wladfa? 

Dyna rai o’r cwestiynau a fydd yn cael sylw 16 academydd o ddisgyblaethau gwahanol. Os hoffech ragor o fanylion neu gopi o raglen y symposiwm, ebostiwch cymraeg@caerdydd.ac.uk

Os hoffech ymuno â’r trafodaethau hyn ar Zoom Webinar yn ystod y 3 diwrnod (o 1pm ymlaen yng Nghymru bob diwrnod; o 9am ymlaen yn yr Ariannin), cofrestrwch drwy glicio ar y botymau isod. Bydd angen cofrestru yn unigol ar gyfer pob diwrnod. (Nifer cyfyngedig o ‘fynychwyr’ y mae Zoom Webinar yn ei ganiatáu, felly cyntaf i’r felin).

Cofrestru - Prynhawn Llun, 20fed Medi

Cofrestru - Prynhawn Mawrth, 21ain Medi

Cofrestru - Prynhawn Mercher, 22ain Medi

Traddodir y sesiynau yn y Gymraeg, y Saesneg a'r Sbaeneg dros Zoom. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y sesiynau sydd yn cael eu traddodi yn y Sbaeneg a'r Gymraeg.

Reinterpretando Y Wladfa

Simposio transdisciplinario trilingüe en conjunto

20-22 de septiembre 2021
Centro de Estudios Galeses en América de Cardiff y
Departamento de Lingüística y Literatura de la Universidad de Bremen

Durante el 2015 el Sesquicentenario de los galeses en Patagonia fue motivo de celebración tanto en la provincia de Chubut como en Gales (sin olvidar Liverpool), aunque más recientemente Y Wladfa se ha convertido en objeto de considerable debate, especialmente en las redes sociales. Sin embargo, estas discusiones han pasado por alto en gran medida el trabajo de investigación de numerosos académicos (de Europa y de Sudamérica) que reinterpretan variados aspectos de la diáspora galesa en la Patagonia.

¿Es un ‘mito’ la relación especial entre los colonos galeses y los pueblos originarios de la Patagonia? ¿Hasta qué punto los galeses de la Patagonia renegaron de su condición de británicos? ¿Son equiparables la ‘Patagonia’ de los galeses y la provincia del Chubut de los argentinos? ¿Y por qué existe en la izquierda galesa actual una tendencia a ignorar los orígenes socialistas de Y Wladfa?

Estas son algunas de las preguntas que serán abordadas por 16 académicos de diferentes disciplinas. Para más información sobre el simposio o una copia del programa comunicarse por correo cymraeg@cardiff.ac.uk

Para acceder a estos debates a través de Zoom Webinar durante los tres días (cada día desde la 1pm de Gales; desde las 9am de Argentina), por favor inscribirse haciendo clic en los botones de abajo. La inscripción a cada fecha debe realizarse de manera individual. (Zoom Webinar permite un número limitado de asistentes por lo que la inscripción se realizará por orden de llegada).

Inscripción: Tarde – lunes 20 de septiembre

Inscripción: Tarde – martes 21 de septiembre

Inscripción: Tarde – miércoles 22 de septiembre

Las presentaciones se realizarán en galés, inglés y español a través de Zoom. Se dispondrá de traducción simultánea para las presentaciones en galés y español.

Rhannwch y digwyddiad hwn