Ewch i’r prif gynnwys

Y Ddinas yn 2040: Ailfeddwl Canol y Ddinas

Dydd Iau, 15 Gorffennaf 2021
Calendar 14:00-15:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The City in 2040: Rethinking the City Centre

Y Ddinas yn 2040: Ailfeddwl Canol y Ddinas. Mae hwn yn un mewn cyfres o dri digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar y cyd gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru, sy'n trin a thafod sut y gallai lleoedd trefol fod wedi newid erbyn 2040.

Ein nod yw cynyddu disgwyliadau academyddion ac ymarferwyr wrth feddwl am heriau a chyfleoedd y dyfodol. Bydd tri chyflwyniad byr yna trafodaeth banel a chynulleidfa.

• Canol Dinas Fywiog yn 2040, Judith Everett, Cyfarwyddwr Gweithredol Pwrpas, Cynaliadwyedd a Rhanddeiliaid, Ystad y Goron

• Ail-ddychmygu canol y ddinas Lev Kushner, Partner Sefydlu, Department of Here

• Gwneud i Ganol Dinas y Dyfodol Weithio i Bawb Dr Mhairi McVicar, Arweinydd Prosiect Porth Cymunedol, Prifysgol Caerdydd

• Cadeirydd: Yr Athro Peter Madden, OBE, Prifysgol Caerdydd

Yn y digwyddiad byddwn yn trin a thrafod: Sut le fydd y swyddfa yn 2040? Beth fydd hyn yn ei olygu i'r CBD a'i ficro-economi? Beth mae hynny’n ei olygu am y daith i’r gwaith? A fydd canol y ddinas yn cynnwys cymunedau cymysg newydd? Os felly, pwy fydd yn eu llywio a sut bydd dinasyddion yn ymgysylltu? Yng ngoleuni hyn, sut beth fydd strategaeth ganol dinas a ddiogelir yn y dyfodol?

Y ddau ddigwyddiad arall yn y gyfres hon yw:

‘Y Ddinas yn 2040: Llywodraethu Dinas y Dyfodol', 16 Medi 2021

‘Y Ddinas yn 2040: Bwydo Dinas y Dyfodol', 30 Medi 2021

Rhannwch y digwyddiad hwn