Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd Caerdydd, bywyd Cymraeg

Dydd Gwener, 4 Mehefin 2021
Calendar 14:00-14:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg

Ydych chi am  ddysgu mwy am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd?  

Bydd Annell Dyfri, Swyddog y Gymraeg newydd Prifysgol Caerdydd, yn cadeirio trafodaeth gyda myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ar fywyd Cymry Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Bydd Ellis Lloyd Jones, Hannah Beetham a Lloyd Lewis yn siarad am eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg trwy eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, eu bywyd yn y ddinas, a'u gyrfaoedd ar ôl gadael y Brifysgol.  

Bydd ein digwyddiad 'Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg' yn arddangos y cyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr astudio a byw trwy'r Gymraeg ym mhrif ddinas Cymru.  

Trefn y Digwyddiad    
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.  

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg ar gael.  

Cofrestru  
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.  

Hysbysiad Diogelu Data  
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data.  

Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.   

Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau recriwtio sydd ar ddod.

Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â CU-Events@caerdydd.ac.uk.  

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Eisteddfod