Ewch i’r prif gynnwys

Bywgraffiad fel diplomyddiaeth ddiwylliannol: Y llyfrau mwyaf poblogaidd am y Rhyfel Oer yn y Dwyrain Canol

Dydd Iau, 20 Mai 2021
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural and Visual Studies research theme stock image

Gweminar gyda Dr Esmaeil Haddadian-Moghaddam (Prifysgol Leiden) a drefnir gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol dan thema ymchwil Ysgol-gyfan yr Ysgol Ieithoedd Modern, Argyfwng a Diwylliant.

Crynodeb
Ar 5 Hydref 1953, cyhoeddwyd llyfr mewn Arabeg yn Cairo a oedd yn hynod boblogaidd, nid yn unig yn yr Aifft ond ar draws y byd Arabaidd. Argraffwyd 30,000 o gopïau. Bu'n rhaid stopio’r gwaith o ysgrifennu fersiwn Persiaidd o'r llyfr. Daeth llyfr arall tebyg ond gyda theitl gwahanol i law ddwy flynedd yn ddiweddarach mewn Perseg, a chafodd 20,000 o gopïau o’r llyfr hwnnw ei brintio, bron yr un mor llwyddiannus â’r cyntaf. Noddwyd y llyfrau hyn gan Franklin Publications, Inc., rhaglen lyfrau yn America am y Rhyfel Oer. Sut ddaeth y llyfrau hyn, yn “nyddiau sinigiaeth, pesimistiaeth ac amheuaeth,” i fod yn llwyddiannus o ystyried pa mor amheus oedd presenoldeb yr Americanwr yn y Dwyrain Canol ar un llaw, a’r cyfraddau llythrennedd isel yn yr Aifft ac Iran ar llall? “Beth oedd yr Americanwyr hyn yn ei wneud? A oedd hi’n bosib nad oedd yna unrhyw gyswllt o gwbl?” Yn y sgwrs hon, rydym yn archwilio'r stori y tu ôl i'r llyfrau hyn mewn ymgais i ddeall sut y’i cyhoeddwyd, trwy ba fodd y gwnaeth cyfieithu ac addasu yn lais i ddiplomyddiaeth ddiwylliannol America yn y rhanbarth, a pha waddol a adawodd y llyfrau hyn ar eu hôl.

Bywgraffiad
Mae Esmaeil Haddadian-Moghaddam yn gymrawd ymchwil Marie Skłodowska-Curie Actions ym Mhrifysgol Leiden ac yn olygydd (ar y cyd â Giles Scott-Smith) rhifyn arbennig diweddar ar “Gyfieithu a’r Rhyfel Oer Diwylliannol” (Astudiaethau Cyfieithu a Dehongli 15: 3). Fe yw awdur Literary Translation in Modern Iran: A Sociological Study (2014) ac mae wedi cyhoeddi gwaith yn Target, Perspectives ac yng Nghyfnodolyn Llenyddiaeth y Byd, y mae’n olygydd sefydlol ac brif olygydd arno.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 28 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn