Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Flynyddol o Ddarlithoedd am Faterion Seibr ym Mhrifysgol Caerdydd

Dydd Mercher, 28 Ebrill 2021
Calendar 15:30-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

 Cardiff Cyber Banner

Bydd digwyddiad agoriadol y gyfres hon yn cael ei gynnal yn rhithwyr gan Athro Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, Kevin Jones, Airbus, Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth. Bydd y gweminar rhad ac am ddim hwn, sy'n agored i bawb, yn cynnwys arbenigwyr o fri rhyngwladol sy'n arweinwyr meddwl ym maes seibr-ddiogelwch. Trwy ddarlithoedd a thrafodaethau panel, bydd y gyfres yn ysgogi meddwl ar y cyd am seibr-fygythiadau, tueddiadau a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal cyn cynhadledd seibr fwyaf blaenllaw'r DU, CyberUK, digwyddiad blaenllaw'r NCSC a bydd yn cynnwys ffigurau byd-eang blaenllaw, ochr yn ochr ag arweinwyr seibr y Brifysgol. Mae Cyfres o Ddarlithoedd am Faterion Seibr Prifysgol Caerdydd yn ffurfio digwyddiad mawr yng nghalendr ecosystem seibr Cymru, gan dynnu sylw at gryfder seibr cynyddol Prifysgol Caerdydd a'r rhanbarth.

Fformat

Dyddiad: Dydd Mercher 28 Ebrill 2020

Amser: 3.30pm-5.30pm

Rhwydweithio Rhithwir ar ôl y Digwyddiad: 5:35pm – 6.05pm

Platfform: Zoom

Cadeirydd: Dr Kevin Jones, Airbus CISO

Siaradwyr a gadarnhawyd; Fabien Lecoq, CTO/CISO, Sopra Steria, Helen Rabe, CISO Byd-eang, Abcam, Vinny Hoxha, Dirprwy CISO, General Motors a Yr Athro Pete Burnap Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch gyda chyfeiriad agoriadol a gyflwynwyd gan yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Agenda Lawn i ddilyn

Rhannwch y digwyddiad hwn