Ewch i’r prif gynnwys

Gonestrwydd Ymchwil: sut allwn ni gefnogi ac amddiffyn ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa mewn achosion o gamymddygiad gwyddonol?

Dydd Llun, 22 Mawrth 2021
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

lap tops and notes image

Cyflwyniad
Yn ystod yr argyfwng hwn, pan fydd llunwyr polisïau a dinasyddion yn gwrando'n astud ar gyngor gwyddonwyr, ni fu ymddiriedaeth yng ngonestrwydd ymchwil a thystiolaeth wyddonol erioed yn bwysicach.  Rhaid i lunwyr polisïau a'r cyhoedd fod â hyder bod gwyddonwyr wedi gweithredu gyda gonestrwydd, ac wedi cadw at egwyddorion trylwyredd, tryloywder a didwylledd wrth gynnal eu hymchwil.  Ond beth sy'n digwydd pan mae'n ymddangos bod camymddwyn gwyddonol, megis pan fydd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn sylwi ar gydweithwyr uwch o bosibl yn creu data neu ffugio canlyniadau?  Pa brosesau sydd ar waith i fynd i'r afael â phroblemau posibl camymddwyn?  Pa gamau y gellir eu cymryd, ar lefelau unigol, sefydliadol a llywodraethol i hwyluso'r broses ymchwilio a, lle bo angen, amddiffyn y rhai sy'n cymryd rhan?

Ymunwch â'n panel arbenigol i drin a thrafod atebion i gwestiynau o'r fath.

Ein panelwyr
Yr Athro Baruch Fischhoff, Athro Prifysgol Howard Heinz, Sefydliad Gwleidyddiaeth a Strategaeth, a Pheirianneg a Pholisi Cyhoeddus, Prifysgol Carnegie Mellon 
Yr Athro Nils-Eric Sahlin MAE, Athro Moeseg Feddygol, Prifysgol Lund, Aelod o Weithgor SAPEA ar Making Sense of Science for Policy ac Aelod o'r Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg mewn Gwyddoniaeth a Thechnolegau Newydd (EGE)
Dr Gemma Modinos FYAE, Cymrawd Syr Henry Dale, Coleg y Brenin Llundain, Cadeirydd Academi Ifanc Ewrop
Yr Athro Moniek Tromp FYAE, Athro Cemeg Deunyddiau, Prifysgol Groningen, Is-gadeirydd Academi Ifanc Ewrop
Dr Barry Dewitt, gwyddonydd ymchwil ôl-ddoethurol, Adran Peirianneg a Pholisi Cyhoeddus, Prifysgol Carnegie Mellon
Cadeirydd y gweminar fydd yr Athro Ole Petersen, Is-lywydd, Academia Europaea.

Y gweminar
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb ledled y byd.  Byddwch chi, y gynulleidfa, yn gallu rhyngweithio â'r panelwyr trwy Sesiwn Holi ac Ateb.
Mae'r digwyddiad hwn yn bartneriaeth rhwng: Academia Europaea, Academi Ifanc Ewrop, SAPEA a'r Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg.

Cefndir 
Mae Baruch Fischhoff, Barry Dewitt, Nils-Eric Sahlin ynghyd ag Alex Davis wedi cyhoeddi papur o'r enw ‘A secure procedure for early career scientists to report apparent misconduct’. Mae'r papur hwn yn gosod yr olygfa ar gyfer ein gweminar. 

Rhannwch y digwyddiad hwn