Ewch i’r prif gynnwys

Dysgwch am sut i gefnogi eich cymuned drwy ddod yn llywodraethwr ysgol

Dydd Mercher, 17 Mawrth 2021
Calendar 12:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A boy puts his hand up in a classroom to answer a question.

Mae Governors for Schools yn elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i helpu i sicrhau addysg ragorol i blant mewn ysgolion drwy lywodraethu effeithiol. Rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi ein cynfyfyrwyr i ystyried gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol.

Mae gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol yn ffordd wych o ehangu eich sgiliau a'ch rhwydwaith, adeiladu profiad ar lefel bwrdd a helpu i bennu cyfeiriad strategol ysgol. Mae'n gyfle i weld effaith eich penderfyniadau'n uniongyrchol. 

Mae gan filoedd o ysgolion ledled Cymru a Lloegr swyddi gwag ac maent yn chwilio am wirfoddolwyr medrus i wasanaethu fel llywodraethwyr. Fel cynfyfyrwyr, mae gennych y sgiliau a'r arbenigedd y mae cyrff llywodraethu ysgolion yn chwilio amdanynt.

Mae Governors for Schools yn rhedeg gweminar am ddim i gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n byw yng Nghymru a Lloegr i'ch cyflwyno i: 

  • rôl byrddau llywodraethu ysgolion
  • sut y gellir eich paru ag ysgol
  • eu cyfleoedd hyfforddi, cyn ac ar ôl i chi gael eich penodi'n llywodraethwr ysgol.

Sesiwn wybodaeth yw hon ac nid oes rhaid i chi wirfoddoli. 

Rhannwch y digwyddiad hwn