Cymorth i Fenywod Caerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
25 Chwefror 2021 @ 10.30am - 12.30pm
Creu Gêm Ymwybyddiaeth Ofalgar
Rydyn ni'n mynd i ddangos i chi sut gallwch chi greu eich gêm eich hun a fydd yn eich helpu mewn cyfnod o orbryder neu straen. Byddwn yn gweithio trwy gysyniadau gêm sylfaenol, gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol o'r enw Scratch. Nid oes angen profiad, ac rydym yn croesawu unrhyw syniadau neu farn yn ystod y sesiwn.
4 Mawrth 2021 @ 10.30am - 12.30pm
Gwefan Rhyfeddod!
Gwefan Cymorth i Fenywod Caerdydd yw’r lle cyntaf i lawer o fenywod fynd am wybodaeth, cefnogaeth a chyswllt. I lawer o bobl, dyma eu Gwefan Rhyfeddod! Hoffem ni weithio gyda chi ar sut hoffech chi i'ch Gwefan Rhyfeddod edrych - drwy naill ai gwneud newidiadau i wefan Cymorth i Fenywod Caerdydd neu ail-greu eich golwg eich hun.
11 Mawrth 2021 @ 10.30am - 12.30pm
Dweud fy Stori
Mae pob menyw yn arbenigwr yn ei stori ei hun. Weithiau gall datgysylltu'ch hun o stori fod yn anodd iawn. Hoffem ni ddefnyddio'r sesiwn hon i roi’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i adrodd stori trwy Raglen Gyfrifiadurol. Gallai eich stori fod yn hir neu'n fyr, yn fanwl neu'n amwys. Eich stori chi yw hi ac rydym ni am eich helpu chi i fod yn berchen arni. Gallwn naill ai weithio gyda chi ar stori bersonol neu roi stori generig i chi ymarfer â hi.
18 Mawrth @ 10.30am - 12.30pm
Hwyluso Gweinyddiaeth Bywyd
Mae pob un ohonom yn haeddu teimlo mewn rheolaeth ac yn ddiogel am ein bywydau ein hunain. Byddem wrth ein bodd yn dangos ffordd gyffrous i chi ennill rheolaeth ar weinyddiaeth eich bywyd. O drefnu ebyst a ffeiliau, i gyllidebau a rhestri bwyd. Byddwn yn eich cyflwyno i fyd codio fel y gallwch ddechrau bod fel Cynorthwy-ydd Personol eich hun. Does dim angen profiad blaenorol.