Ewch i’r prif gynnwys

Le Français, le Monde et Moi

Dydd Gwener, 19 Mawrth 2021
Calendar 10:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Gweithdy ar-lein gyda myfyrwyr sy’n siarad Ffrangeg ar lefel uwch o Brifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â dau arbenigwr Ffrangeg fel Iaith Dramor: Dr Eglantine Guely, o Institut National Supérieur du Professorat et de l’Education o Lorraine, Ffrainc a Dr Catherine Chabert, o'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan grant Language Acts and Worldmaking yr AHRC.

Bydd y themâu yn canolbwyntio ar:
*    Cymwyseddau iaith defnyddwyr annibynnol a phrofiadol, a chyfryngu cyfathrebu yn enwedig
*    Dysgu ieithoedd yn annibynnol ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol.

Bydd trafodaethau'n canolbwyntio ar y tri phwnc hyn:
*    Trafodaeth mewn grŵp 1: Eich profiad o ddysgu Ffrangeg - Amlieithrwydd
*    Trafodaeth mewn grŵp 2: Lleoliadau tramor - Rhyngddiwylliannedd
*    Tabl Crwn 3: Dysgu ieithoedd yn annibynnol- Dysgu am oes.

Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng Ffrangeg a Saesneg.

Bywgraffiad

Mae Dr Eglantine Guely yn ddarlithydd yn Institut National Supérieur du Professorat et de l'Education Lorraine, arbenigwr mewn Ffrangeg fel Iaith Dramor ac amlieithrwydd. Cyn dychwelyd i Nancy, bu Eglantine yn byw ym Mrasil am 7 mlynedd, i ddechrau fel Cyfarwyddwr y Gynghrair Ffrengig yn São Luis, yna fel myfyriwr ôl-ddoethurol yn UNICAMP. Mae ei hymchwil gyfredol yn cynnwys hyfforddi athrawon iaith fodern a rôl addysg ddigidol mewn ymreolaeth dysgwyr iaith.

Dr Catherine Chabert, Darllenydd mewn Ffrangeg.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Recordio
Sylwch, bydd y digwyddiad yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn