Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau Ymchwil Addysg STEM ar sail disgyblaeth: Brittland DeKorver

Dydd Mercher, 2 Mehefin 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

CESI speakers

Mae mynediad cyfartal at addysg, gyda phwyslais at wneud rhagor i gynnwys grwpiau sydd wedi bod ar y cyrion yn hanesyddol, wedi bod yn nod hirsefydlog gan addysgwyr a gweinyddwyr. Fodd bynnag, cynyddu mae’r dystiolaeth nad yw myfyrwyr o'r grwpiau hyn cael mynediad teg o hyd mewn gwaith cwrs STEM. Mae theori hil feirniadol, sy'n pwysleisio archwiliad o gyd-destun profiadau unigolion ar yr ymylon, yn awgrymu y gallai ymchwil addysg ar sail disgyblaeth (DBER) fod mewn man unigryw i egluro pam mae anghydraddoldebau'n parhau mewn cyrsiau STEM penodol. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar broblem anghydraddoldeb yng nghyd-destun cwricwlwm cemeg israddedig, a bydd yn cyflwyno data a gasglwyd o arolwg a gynhaliwyd mewn sefydliad israddedig mawr, sy’n wyn yn bennaf. Mae'r data’n datgelu sut y gall hunaniaethau hiliol a rhywedd myfyrwyr effeithio ar eu hagweddau wrth iddynt ymgymryd â gwaith cwrs labordy cemeg. Caiff yr angen am ddulliau mesur dilys o ganfod gwahaniaethau wrth gymharu grwpiau eu cyflwyno hefyd. Yn olaf, cynigir argymhellion ymarferol ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn cyrsiau STEM.

Rhan o'r Gweminarau Ymchwil Addysg STEM sy'n seiliedig ar Ddisgyblaeth (Ionawr i Fehefin 2021 ar ddydd Mercher 4pm GMT)

Mae'r gweminarau hyn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd / UCL, a drefnwyd gan Andrea Jiménez Dalmaroni (Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a LCN UCL), ac a noddir yn garedig gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal trwy zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn