Ewch i’r prif gynnwys

Gweminarau Ymchwil Addysg STEM ar sail disgyblaeth: Eric Mazur

Dydd Mercher, 27 Ionawr 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

CESI speakers

Pam mae myfyrwyr disglair weithiau’n methu yn y gweithle, tra bod y rhai sy’n gadael eu cwrs yn llwyddo? Un o’r rhesymau pam mae hyn yn digwydd yw am nad yw’r rhan fwyaf o’n harferion asesu cyfredol, os nad y cyfan ohonynt, yn cyfleu’r byd go iawn. Yn yr un modd ag y mae'r ddarlith yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth i fyfyrwyr, felly hefyd y mae asesu'n aml yn canolbwyntio ar gael myfyrwyr i ailgyflwyno'r un wybodaeth i'r hyfforddwr. O ganlyniad i hyn, nid yw’r asesiad yn canolbwyntio ar y sgiliau sy’n berthnasol mewn bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae asesu wedi’i alw’n ‘gwricwlwm cudd’ gan ei fod yn sbardun pwysig i arferion astudio myfyrwyr. Oni bai ein bod yn ailystyried ein dull asesu, bydd yn anodd iawn creu newid ystyrlon mewn addysg.

Rhan o'r Gweminarau Ymchwil Addysg STEM sy'n seiliedig ar Ddisgyblaeth (Ionawr i Fehefin 2021 ar ddydd Mercher 4pm GMT)

Mae'r gweminarau hyn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a UCL, a noddir gan Institute of Physics a The Royal Society of Chemistry.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal trwy zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn