Awgrymiadau ar gyfer pobl ifanc sy'n colli cwsg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Bydd Dr Katie Lewis yn rhannu awgrymiadau gyda phobl ifanc yn eu harddegau ar sut i gael noson well o gwsg.
Yn y gweminar hwn, bydd Katie'n trafod:
- beth sy'n rheoli ein cwsg
- sut mae cwsg yn newid yn ystod ein harddegau
- problemau cwsg a'r hyn y gallwn ei wneud yn eu cylch
Mae Katie’n Gydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn ymchwilio i'r cysylltiad rhwng cwsg ag iechyd meddwl.
Cwblhaodd BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon a PhD mewn Meddygaeth Seicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd ei PhD yn edrych sut mae colli cwsg yn gallu bod yn rhybudd cynnar o fania mewn anhwylder deubegynol a seicosis postpartum.
Yn ddiweddar dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Syr Henry Wellcome iddi, a bydd yn ymchwilio i'r berthynas rhwng anhwylderau cwsg a hwyliau, yn defnyddio data genetig, hydredol a niwroffisiolegol.