Ewch i’r prif gynnwys

Curadu'r Presennol: Meddwl yn Hanesyddol am Bandemig Covid-19

Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

History and heritage stock image

Digwyddiad bwrdd crwn ar-lein a drefnir gan thema ymchwil Hanes a Threftadaeth dan thema ymchwil Ysgol-gyfan Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Elen Phillips (Amgueddfa Werin Sain Ffagan), Dr Carolin Roeder (Sefydliad Hanes Gwyddoniaeth Max Plank), Kara Takasaki (Prifysgol Texas yn Austin), Dominika Moravčíková (Prifysgol Charles Prague).

Achosodd pandemig Covid-19 aflonyddwch na welwyd ei debyg yn ein bywydau i gyd. Fel haneswyr, rydym yn wynebu tasg gymhleth wrth ddogfennu'r profiad o fyw trwy'r argyfwng byd-eang hwn. Bron i flwyddyn ar ôl i WHO ddatgan bod Covid-19 yn bandemig, rydym ni'n holi sut y gallem fynd ati i gofnodi'r ffyrdd amlochrog, anwastad ac weithiau fyrhoedlog y mae'r firws wedi effeithio ar gymunedau ledled y byd. Bydd y bwrdd crwn hwn yn cynnull ymchwilwyr a gweithwyr treftadaeth proffesiynol y bydd eu gwaith parhaus yn helpu i lunio dealltwriaeth cenedlaethau'r dyfodol o brofiad byw drwy Covid-19. Yn ystod y drafodaeth, byddwn yn ystyried pa ddulliau dogfennu allai ein caniatáu i archwilio effaith y pandemig byd-eang yn llawn, ac yn edrych ar rywfaint o'i waddol hanesyddol tebygol.

Cymedrolwyd gan yr Athro Hanna Diamond.

Siaradwyr:

Elen Phillips yw Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan lle mae hi'n Gyd-Arweinydd prosiect Casglu Covid: Cymru 2020. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ymarfer curadurol cyfranogol a methodolegau casglu curadur cyntaf St Fagans, Dr Iorwerth C. Peate.

Mae Dr Carolin Roeder yn Gymrawd Ôl-ddoethurol Gwadd yn Sefydliad Max Plank ar gyfer Hanes Gwyddoniaeth yn ninas Berlin. Hi yw Cyd-arweinydd Prosiect Mask - Arrayed, sy'n edrych ar agweddau materol, technolegol a diwylliannol y mwgwd wyneb, arteffact mwyaf eiconig argyfwng Covid-19. Dyfarnwyd PhD iddi mewn Hanes Ewrop Fodern o Brifysgol Harvard yn 2017.

Mae Kara Takasaki yn ymgeisydd PhD mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Texas yn Austin. Mae hi hefyd yn Gyd-arweinydd Pwyllgor yr Arolwg Meintiol ar gyfer Prosiect Covid-19 AAPI, sy'n edrych ar argyfwng parhaus Covid-19 wrth iddo siapio bywydau pobl Asiaidd, Americanwyr Asiaidd, a phobl o Ynysoedd y Môr Tawel yn yr Unol Daleithiau. Mae hi'n astudio anghydraddoldeb hil a rhywedd mewn gweithleoedd ac mewn perthnasoedd personol, ac yn ddiweddar helpodd i lansio'r ganolfan hysbysu am droseddau casineb yn erbyn Americanwyr Asiaidd a phobl Ynysoedd y Môr Tawel yng Nghaliffornia.

Mae Dominika Moravčíková yn ymchwilydd ôl-raddedig yn y Sefydliad Cerddoleg ym Mhrifysgol Charles Prague. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar brosiect sy'n edrych ar gyfundrefnau sain cyhoeddus a phreifat yn ystod y pandemig. Mae hi hefyd yn cynnal ymchwil ethnograffig ar addysg cerddoriaeth plant Roma yn Slofacia. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cenedlaetholdeb, y mudiad adfywio llên gwerin, seinweddau trefol, a chystrawennau ymylol mewn cerddoriaeth.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 27 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn