Ewch i’r prif gynnwys

CORNEL TSIEINEAIDD: Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2021

Dydd Mercher, 20 Ionawr 2021
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Traditional Chinese Lion Dance to celebrate the New Year

Pan fydd pobl yn sôn am Ŵyl y Gwanwyn, bydd y mwyafrif yn meddwl mai dathliad undydd yn unig yw hwnnw. Y gwir yw ei fod yn para tua 15 diwrnod a bod pob diwrnod yn llawn ystyr a gweithgaredd.

Yn y cyflwyniad diwylliannol hwn, byddwn yn egluro beth mae Gŵyl y Gwanwyn yn ei olygu, pam mae'r ŵyl hon mor arbennig i bobl Tsieineaidd, a beth mae pobl Tsieineaidd yn ei wneud yn ystod Gŵyl y Gwanwyn.

Bydd tarddiad Gŵyl y Gwanwyn, caneuon a straeon gwerin traddodiadol, bwydydd arbennig fel twmplenni ac yuanxiao ynghyd â gweithgareddau fel dawns y Ddraig a'r Llew hefyd yn cael eu cyflwyno.

Bydd hwn yn sesiwn ryngweithiol gyda chyfleoedd i sgwrsio ag eraill sy’n cymryd rhan a dysgu rhywfaint o Tsieinëeg.

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein ar Zoom. Byddwn yn ebostio manylion i chi am sut i ymuno’r diwrnod cynt.

Rhannwch y digwyddiad hwn