Ewch i’r prif gynnwys

‘Ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau’: Charles Edwards, alltudiaeth, ac erledigaeth

Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Seminar Ymchwil Dewi Alter Research Seminar

Bwriad y papur hwn yw dadansoddi gweithiau a bywyd Charles Edwards (1628-1691?) yng ngoleuni trafodaethau ar alltudiaeth yn arbennig y cysyniad ‘internal exile’ D’Addario (2007). Dadleuaf y nodweddir bywyd a gweithiau Charles Edwards gan ymdeimlad o alltudiaeth. Dadansoddaf sut ymddengys fel thema bwysig yn Y Ffydd Ddi-ffuant (1677) ac An Afflicted Man’s Testimony (1691). Un ffordd y gwelwn hyn yw wrth iddo gael ei erlid yn ystod y blynyddoedd wedi’r Adferiad yn 1660 yng ngoleuni polisïau'r Senedd Gafalîr. Yn sgil ei alltudiaeth try at y gorffennol am gysur ac uniaetha â merthyron y ffydd Gristnogol o ganrifoedd gynt. Canlyniad hyn yw i Charles Edwards farnu bod alltudiaeth yn nodwedd o fywyd pob Cristion, ym mhob oes, ac ym mhob gwlad.

Traddodir y seminar hon yn Gymraeg dros Zoom.

Mae Dewi Alter yn fyfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, daeth i'r Ysgol gyntaf ar gyfer gradd BA mewn Cymraeg a Hanes, cyn mynd ymlaen i gyflawni MA yn Astudiaethau Celtaidd gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cynnar. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth Gymreig y cyfnod modern cynnar, Cof Diwylliannol, ac yn arbennig y berthynas rhwng y gorffennol, y cof, hunaniaeth mewn testunau llenyddol. 

Rhannwch y digwyddiad hwn