Ewch i’r prif gynnwys

Gramadegau Barddol Traddodiadol yng Nghymru y Dadeni

Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Gramadegau barddol traddodiadol yng Nghymru y Dadeni | Traditional Bardic Grammars in Renaissance Wales

O’r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at y cyfnod modern cynnar, ail-gopïwyd a golygwyd y gramadegau barddol traddodiadol (llawlyfrau technegol canoloesol sydd yn disgrifio sut i farddoni yn y Gymraeg) gan gyfres o feirdd, ysgolheigion, hynafiaethwyr, a gweinyddwyr. Yn y 1570au, ar ôl canrifoedd o gopïo, cawn y fersiwn hwyaf a mwyaf cymhleth o’r gramadegau: fersiwn gan Simwnt Fychan, bardd a oedd yn ddisgybl i Gruffudd Hiraethog. Yn sgil safle Simwnt mewn cylch a oedd yn cynnwys beirdd a dyneiddwyr, pan drafodir ei ramadeg o gwbl, mae yna dueddiad ei ystyried fel cynnyrch y Dadeni Dysg. Ond ers cyhoeddi golygiad ym 1934, trafodwyd y gramadeg yn anaml gan ysgolheigion; ac fel canlyniad, mae’n anodd diffinio beth yn union oedd natur cyfraniad Simwnt Fychan. Yn y seminar hwn, byddaf yn trafod fy mhrosiect ymchwil newydd ar ramadeg Simwnt Fychan, prosiect sydd yn ystyried i ba radd mae ei waith yn adlewyrchu delfrydau’r dyneiddwyr Cymreig, ac i ba raddau y mae gramadeg Simwnt yn gynnyrch ceidwadol a thraddodiadol. Byddaf yn gosod golygiad Simwnt Fychan yn ei gyd-destun hanesyddol, gyda ddarlleniad manwl o’r cynnwys, er mwyn cynnig rhai sylwadau rhagarweiniol am safle’r gwaith yng Nghymru’r Dadeni.

Traddodir y seminar yma dros Zoom ac yn Gymraeg.

Mae Michaela Jacques yn gymrawd ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Astudiaethau Canoloesol, Prifysgol Toronto. Graddiodd Michaela yn ddiweddar o’r Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd yn Harvard, gyda thraethawd ar \"The Reception and Transmission of the Bardic Grammars in Late Medieval and Early Modern Wales\".

Rhannwch y digwyddiad hwn