Ewch i’r prif gynnwys

‘Next of Kin’: perfformiad a thrafodaeth am ddementia, anableddau a gofal iechyd (gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynau)

Dydd Iau, 12 Tachwedd 2020
Calendar 11:00-12:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

next of kin

Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos ‘Next of Kin’ am y tro cyntaf, gyda thrafodaeth i ddilyn am ddementia, cyfathrebu B/byddar, anableddau a gofal iechyd. Drama yw ‘Next of Kin’ sy’n seiliedig ar ymchwil anthropolegol ar brofiadau grwpiau lleiafrifol (mewn perthynas ag ethnigrwydd, rhywioldeb ac anabledd) gyda gofal dementia ac effaith micro-ymosodiadau ar fywydau pobl.

Yn y digwyddiad hwn, bydd gan gyfranogwyr gyfle i ddysgu mwy am yr ymchwil, gwylio’r perfformiad, a chymryd rhan mewn trafodaeth am ddementia ac anghydraddoldebau iechyd. Bydd y drafodaeth yn rhyngweithiol, a bydd modd i’r cyfranogwyr rannu eu profiadau eu hunain a gofyn cwestiynau i’r ymchwilwyr, cyfarwyddwr y perfformiad a’r actorion.

Nod y digwyddiad yw newid y ffordd mae pobl yn edrych ar ddementia, a magu dealltwriaeth ddyfnach o’r ffordd mae stigma cymdeithasol a gwahaniaethu yn effeithio ar ansawdd bywyd, ynghyd â sut gall y celfyddydau gael effaith ar anghydraddoldebau iechyd.

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i bobl sy’n gweithio ym maes dementia ac anghydraddoldebau iechyd, pobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd, ynghyd â phobl sydd â diddordeb yn y theatr, y celfyddydau, a chyfiawnder cymdeithasol.

Ariennir y prosiect Dementia ac Amrywiaeth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac fe’i weithredir mewn partneriaeth â Diverse Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru.

Rhannwch y digwyddiad hwn