Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud yn lle dweud

Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020
Calendar 10:30-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

roof

Grantiau cystadleuol yw un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o geisio newid cymdeithas.

Cânt eu defnyddio i gynyddu twf economaidd, sbarduno darganfyddiadau gwyddonol, gwella gwasanaethau cyhoeddus, cadw hanes ac annog gweithredaeth sifig. Mae sefydliadau dyfarnu grantiau, boed yn gyrff cyhoeddus neu yn y trydydd sector, yn dymuno gwneud cymaint o ddaioni â phosib gyda chyllid cyfyngedig, ond er gwaethaf eu bwriadau da, ambell waith maen nhw'n cyfyngu'r pwll o dalent a syniadau. Gall prosesau cymhleth ddigalonni ymgeiswyr talentog ond prysur. Gall hidlo ceisiadau sbarduno tueddiadau diarwybod. Canlyniad hyn yw ymgeiswyr rhwystredig a chyrff dyfarnu grantiau yn methu â gwneud y defnydd gorau o'u harian. Bydd y gweithdy hwn yn trafod sut yr edrychodd un sefydliad elusennol yn fanwl ar ei ddata i ddeall sut y gallai wneud yn well.

Cofrestrwch

Mae Nesta, sy’n sefydliad arloesedd yn y DU, wedi rhyddhau data ar werth £10 miliwn o grantiau i ymchwilwyr. Bydd rhan gyntaf y gweithdy’n amlinellu’r hyn a ganfu eu harchwiliad, gan ganolbwyntio ar rywedd a lleoliad ymgeiswyr. Byddwch yn dysgu sut gall sefydliadau sy’n dyfarnu grantiau gynnal y math hwn o archwiliad, ac am y newidiadau mae Nesta’n eu hystyried.

Wedi hynny, byddwn ni’n cynnal trafodaeth wedi’i hwyluso i helpu ymgeiswyr a dyfarnwyr grantiau i ddeall ei gilydd yn well, heb gyfyngiadau prosesau ffurfiol dyfarnu grantiau. Byddwn ni’n canfod pa rwystrau mae ymgeiswyr wedi’u hwynebu, a sut maen nhw’n meddwl y gellir cael gwared arnyn nhw. Byddwn ni hefyd yn clywed gan ddyfarnwyr grantiau am ofynion cymhleth cynnal rhaglenni grant, a’r dewisiadau anodd sy’n rhan o geisio cynyddu hygyrchedd.

Bydd rhan gyntaf y digwyddiad yn cael ei recordio i’w rhannu gyda phobl sy’n methu bod yn bresennol.

 

Rhannwch y digwyddiad hwn