Ewch i’r prif gynnwys

Arfordiroedd yn Newid: Ymaddasu newid hinsawdd yn eich cymuned CHI

Dydd Llun, 9 Tachwedd 2020
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Coastal communities

I gymunedau ar hyd yr arfordir, mae rheoli arfordirol a’r angen cynyddol i addasu yn sgil newid hinsawdd yn ganolog i’w dyfodol. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n uniongyrchol ar Fôr Iwerddon a’i gymunedau arfordirol yn Iwerddon a Chymru. Drwy’r prosiect aml-bartner Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Ynghyd (CCAT), rydyn ni’n gweithio i gefnogi cymunedau arfordirol yn Sir Benfro a Fingal yn Iwerddon i ddeall effaith newid hinsawdd, a sut gallai effeithio ar eu cymunedau lleol.

Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos y gwaith sy’n cael ei wneud drwy CCAT, gan gynnwys cyflwyniadau ar ganfyddiadau ac agweddau’r gymuned tuag at newid hinsawdd a goblygiadau hyn i ymaddasu, arddangosiad o’r gyfres o adnoddau addysgol, gan gynnwys gêm newid hinsawdd ryngweithiol ar-lein, animeiddiad ar ymaddasu newid hinsawdd ar gyfer ein cymuned astudiaeth achos yn Iwerddon, ynghyd â defnydd o dechnolegau arloesol (fel geoddylunio a rhithwir) fel ffordd o gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth, a gallu i ymaddasu i newid hinsawdd.

Yn ystod y digwyddiad hwn, byddwch yn dysgu mwy am bwysigrwydd deall canfyddiadau cymunedau arfordirol o newid hinsawdd, a sut mae hyn yn dylanwadu ar y syniad o ddinasyddiaeth hinsawdd. Cewch gyfle hefyd i chwarae rôl y penderfynwyr ac aelodau o’r gymuned leol yn ein gêm gardiau ryngweithiol ar-lein ar newid hinsawdd.

Rhannwch y digwyddiad hwn