Ewch i’r prif gynnwys

Fy nhaith at dderbyn - pryd mae’n dechrau?

Dydd Sul, 8 Tachwedd 2020
Calendar 19:30-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Acceptance

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Ffrwythlondeb Portiwgal a Rhwydwaith Ffrwythlondeb y DU, rydyn ni wedi datblygu MyJourney - ap gwe dwyieithog (Portiwgaleg a Saesneg) wedi’i seilio ar ymchwil sy’n cefnogi pobl sydd wedi ceisio popeth i gael y plant roedden nhw’n dymuno eu cael. Bydd MyJourney’n cael ei lansio ddechrau mis Tachwedd mewn digwyddiad ar y cyd rhwng Cymdeithas Ffrwythlondeb Portiwgal a Rhwydwaith Ffrwythlondeb y DU. Dyma fydd penllanw proses ymchwil hir a oedd yn canolbwyntio ar ddeall sut mae pobl yn addasu pan na chaiff dymuniad i gael plant ei wireddu, a sut mae eu cefnogi orau.

Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ymuno â’r digwyddiad hwn nos Sul 8 Tachwedd am 19:30 er mwyn dysgu mwy am ap gwe MyJourney, yr ymchwil gymdeithasol fu’n sail i’w ddatblygiad, a’r treial dichonoldeb rydyn ni’n ei gynnal ar hyn o bryd.

Yn ogystal, mae ganddon ni ddiddordeb mewn archwilio cysyniadau penodol a gododd yn ystod astudiaeth derbynioldeb blaenorol MyJourney.  Cyfeiriodd pob un o’r cyfranogwyr at eu proses addasu fel ‘fy nhaith’, trosiad yr aethom ati i’w ymgorffori’n llwyr i’r ap gwe. Roedd cysyniadau perthnasol yn cynnwys parodrwydd i ddechrau’r daith, cyflymder y teithio, a sut mae rhywun yn newid yn ystod y daith. Mae’r ap yn ymgorffori pynciau’n ymwneud â newid cadarnhaol ar hyd taith yr unigolyn, a byddwn ni’n cyflwyno rhai o’r pynciau hyn yn weledol. Mae ganddon ni ddiddordeb mewn gwella ein dealltwriaeth o’r canlynol: 1) eich safbwyntiau a’ch profiadau a adlewyrchir yn y trosiadau a’r pynciau hyn; a 2) sut rydych chi’n teimlo y gellir ymgorffori’r trosiadau a’r pynciau hyn yn well yn yr ap gwe (drwy ddiweddariadau) a’r brandio mewn ffordd ddefnyddiol.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn ni’n dangos cyfres o ddelweddau artistig i chi sy’n seiliedig ar y trosiad o daith, gan gyflwyno naratifau sy’n integreiddio’r is-drosiadau hyn (parodrwydd, cyflymder a newid ar hyd y daith) a phynciau eraill. Byddwn ni’n gofyn am eich barn am y delweddau hyn, a ydych chi’n meddwl eu bod yn cynrychioli’r trosiadau a’r pynciau, ac a oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i’w gwella. Bydd ganddon ni arolwg hefyd er mwyn clywed beth yw eich hoff ddelwedd!

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Inspired by