Ewch i’r prif gynnwys

Rhentu nwyddau traul: defnydd cynaliadwy mewn byd ar ôl Covid?

Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Consumer Goods

Cyn Covid-19, roedd rhentu nwyddau traul fel dillad ffasiwn, teganau, teclynnau a dillad babi wedi bod yn dod yn fwy poblogaidd fel opsiwn cyfleus, cost-effeithiol a chynaliadwy.  Mae’n cynnig cyfle i ddefnyddwyr sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ymestyn oes cynnyrch, a lleihau eu defnydd o nwyddau traul newydd sbon. Yn ogystal, rydyn ni’n archwilio symudiad oddi wrth berchnogaeth draddodiadol (sy’n dod yn llai pwysig) at werthfawrogi profiadau a mynediad at nwyddau. Serch hynny, er gwaetha poblogrwydd cynyddol platfformau’r economi rannu sy’n cynnig llety a gwasanaethau cludo, mae ymwybyddiaeth a phrofiad o rentu nwyddau traul bob dydd ar-lein yn dal i fod yn isel iawn. Yn ddiweddar, mae siopau adrannol ansawdd uchel wedi cyhoeddi treialon rhentu. Lansiodd Selfridges ei chasgliad rhentu cyntaf mewn partneriaeth â’r platfform rhentu HURR Collective, a lansiodd John Lewis wasanaeth rhentu dodrefn gyda Fat Llama. Ydy hyn yn arwydd y gall rhentu nwyddau traul ddod yn rhywbeth prif ffrwd yn y dyfodol, a fydd ar gael ar bob stryd fawr?

Yn y digwyddiad ar-lein hwn byddwn ni’n archwilio agweddau, gyrwyr a rhwystrau rhag rhentu nwyddau traul fel dewis amgen yn lle prynu’n newydd sbon. Byddwn ni’n cyflwyno canlyniadau o dair astudiaeth defnyddwyr a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig/Ymddiriedolaeth Leverhulme. Yn ogystal, byddwn ni’n ystyried effaith Covid-19 ar wasanaethau rhentu. Yn ystod y pandemig presennol, mae defnyddwyr wedi dod yn fwy ymwybodol o effaith eu harferion defnyddio, ac wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w harferion dyddiol. Ar yr un pryd, profodd rhai llwyfannau rhentu gynnydd mewn galw, ond profodd eraill amhariad i’w gweithrediadau busnes. Bydd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth banel gyda pherchnogion busnesau rhentu (Our Closet a Toybox Club), gan gynnig cyfle i rannu eu profiadau. Bydd polau rhyngweithiol a sesiwn Holi ac Ateb yn galluogi’r gynulleidfa i gymryd rhan.

Rhannwch y digwyddiad hwn