Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Safbwyntiau Damcaniaethol ac Ymarferol

Dydd Llun, 9 Tachwedd 2020
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

peacebuilding

Yn gyffredinol, nid yw dealltwriaeth o gyfraniadau economaidd a gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) i broses heddwch Gogledd Iwerddon wedi’i damcaniaethu ddigon. Serch hynny, gweithredodd yr UE fel llwyfan i feithrin deialog a chydweithrediad cadarnhaol, a chyfrannodd at ail-ffurfweddu’r rhanbarth o fod yn safle gwrthdaro i fod yn safle o liniaru gwrthdaro a meithrin heddwch.

Mae dau nod i’r panel trafod hwn. Yn gyntaf, bydd yn dangos bod y gydberthynas rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE wedi bod yn llawer mwy arwyddocaol yn ystod y broses heddwch nag sydd wedi’i awgrymu’n flaenorol. Yn ail, bydd yn taflu goleuni ar y cysylltiad rhwng damcaniaethau, polisïau, ac arferion meithrin heddwch yr UE yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r cysylltiad hwn yn bwysig, oherwydd mae diffyg strategaeth fanwl o feithrin heddwch yn dal i fod gan yr UE. Byddai achos Gogledd Iwerddon a’r heriau a wynebodd ymarferwyr heddwch wrth weithredu Rhaglenni PEACE yn gallu addysgu’r UE ei hun ynghylch sut i strategeiddio’n well mewn meysydd eraill o gyfryngu a meithrin heddwch y mae’n rhan ohonynt ledled y byd. At hynny, bydd y drafodaeth yn taflu goleuni ar yr heriau a wynebodd ymarferwyr heddwch yng Ngogledd Iwerddon, a’r datrysiadau a ddatblygwyd. Bydd y drafodaeth banel hon yn creu trafodaeth fywiog am bolisïau a gwleidyddiaeth, a gall gael effaith go iawn ar bolisi.

Rhannwch y digwyddiad hwn