Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau Mandarin ar-lein yn rhad ac am ddim i Athrawon Ysgol

Calendar Dydd Mercher 4 Tachwedd 2020, 16:00-Dydd Iau 17 Rhagfyr 2020, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mandarin for Teachers courses / Cyrsiau Mandarin i Athrawon

Hoffai Sefydliad Confucius Caerdydd wahodd pob athro ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru i ymuno â'n cyrsiau Mandarin nesaf ar gyfer Athrawon.

Byddwn yn cynnal y dosbarthiadau hyn ar-lein trwy Zoom rhwng 4 a 5 Tachwedd, ac maent yn rhad ac am ddim.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu iaith newydd a bod yn rhan allweddol o integreiddio iaith ryngwladol, sef Tsieinëeg Mandarin, yn eich ysgol yn unol â’r cwricwlwm newydd. Mae gan Mandarin nifer sylweddol o siaradwyr yn fwy nag unrhyw iaith arall ar draws y byd, felly mae’n iaith ddefnyddiol iawn i’ch disgyblion a chithau ddysgu.

Byddwn yn cynnig pedwar cwrs sy’n para chwe wythnos ar lefelau Dechreuwyr I (dau grŵp), II a III ar ddydd Mercher a dydd Iau o 16:00. Mae cyrsiau Dechreuwyr I yn awr o hyd, ac mae Dechreuwyr II a III yn para 1.5 awr.

Os hoffech chi ymuno, llenwch y tabl dilynol a’i ebostio at ucelev@caerdydd.ac.uk erbyn 9am ddydd
Llun 2 Tachwedd:

* Enw cyntaf
* Cyfenw
* Ebost
* Yr Ysgol yr ydych yn gweithio ynddi
* Y cwrs yr ydych am ei gymryd:

- Dechreuwyr I / Dydd Mercher 16:00 - 17:00
- Dechreuwyr I / Dydd Iau 16:00 - 17:00
- Dechreuwyr II / Dydd Iau 16:00 - 17:30
- Dechreuwyr III / Dydd Mercher 16:00 - 17:30

Os gallwch o bosibl ddod i’r naill ddiwrnod neu'r llall i Ddechreuwyr I, tanlinellwch y ddau.

* Os ydych wedi bod ar gwrs o’r blaen, rhowch fanylion (lefel / lleoliad / pryd)

Os gwnaethoch chi ddilyn cwrs i Ddechreuwyr naill ai ar-lein neu wyneb-yn-wyneb, cofrestrwch ar gyfer Dechreuwyr II. Os gwnaethoch chi gwrs i Ôl-ddechreuwyr neu Ddechreuwyr II, ewch am Ddechreuwyr III.

Darganfod rhagor o fanylion yma.

Rhannwch y digwyddiad hwn