Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Dr Wojtek Paczos
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Beth Nesaf i’r Economi Fyd-eang ar ôl Covid-19?
Bydd y sesiwn hon yn crynhoi macro-economeg y pandemig Covid-19. Mae cynnydd y data ac ymchwil Newydd yn ystod y misoedd diwethaf yn wirioneddol ysgubol, felly bydd y sesiwn yn crynhoi’r canfyddiadau pwysicaf i chi. Byddwn yn egluro’r sefyllfa trwy archwilio’r gwahaniaethau rhwng economïau’r DU, Sbaen a Gwlad Pwyl, a fydd yn ein helpu i ddeall pa ffactorau sy’n hollbwysig o ran ehangder yr argyfwng, a chyflymder yr adferiad dilynol. Byddwn yn trafod y newidiadau tebygol y bydd y pandemig yn achosi ar globaleiddio, polisi economaidd, marchnadoedd llafur, trethi a gofal iechyd, gyda’r bwriad o helpu busnesau a sefydliadau baratoi’n well ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn danfon manylion ar gyfer ymuno a’r sesiwn yn agosach at yr achlysir.
Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).