Ewch i’r prif gynnwys

Isdeitlo nad yw’n broffesiynol ac astudiaethau cyfieithu: mater o gydgyfeirio

Dydd Iau, 12 Tachwedd 2020
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies

Darlith gyhoeddus ar-lein gyda Dr David Orrego-Carmona (Aston University), sy'n cael ei chynnal gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol.

Crynodeb

Mae rhwydweithiau cyfieithu nad ydynt yn broffesiynol yn gweithredu ar raddfa fyd-eang, ar draws ieithoedd, diwylliannau a ffiniau, ac yn ddylanwad mawr ar ddosbarthiad cyfryngau byd-eang. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno cysyniadau allweddol i ddeall cyfieithu nad yw’n broffesiynol mewn perthynas â thermau eraill fel cyfieithu gwirfoddol a chyfrannu torfol i ganolbwyntio ar isdeitlo nad yw’n broffesiynol a'i effaith ar gyfryngau a chyfieithu.

Mae isdeitlo nad yw’n broffesiynol yn creu cysylltiadau sy'n gwneud materoli llif cyfryngau amgen yn bosibl ynghyd â democrateiddio mynediad yn y byd digidol. Mae'r grym galluogi hwn sydd gan isdeitlo nad yw’n broffesiynol yn amlygu perthnasedd cyfieithu fel gweithgaredd cymdeithasol yn yr 21ain ganrif a'r potensial sydd ganddo i ddod â phobl at ei gilydd mewn byd a gyfryngir gan dechnolegau.

Mae isdeitlo nad yw’n broffesiynol yn bwnc dadleuol. Ambell waith dadleuir bod pobl nad ydynt yn broffesiynol yn tanseilio safle a gwerth y proffesiwn. Fodd bynnag mae arferion cyfieithu proffesiynol ac nad yw’n broffesiynol yn cyd-fodoli mewn uniad cymhleth o gynhyrchu a defnydd. Y tu hwnt i ffiniau proffesiynoli arferion cyfieithu, y gellir ei ystyried i raddau helaeth yn gysyniad Gorllewinol, ac ym mharth yr economi anffurfiol, rôl cyfathrebu sydd i gyfieithu'n bennaf. Mae'r cyfathrebu di-ffiniau hwn wedi dod yn hanfodol mewn cymdeithas a gyfoethogir gan dechnolegau digidol.

Mae'r sgwrs hon yn canolbwyntio ar y rôl honno sydd i gyfieithu yng nghyd-destun y cyfryngau a thrwy ymchwilio i gynulleidfaoedd. Mae'n ystyried isdeitlo nad yw’n broffesiynol fel elfen allweddol yn nosbarthiad anffurfiol y cyfryngau ac yn ymgorfforiad o’r diwylliant cyfranogol. Drwy'r ystyriaethau hyn, nod y sgwrs yw cyfrannu at gysyniadoli cyfieithu fel gweithgaredd dynol i ailedrych ar gonglfeini astudiaethau cyfieithu, fel gwelededd, ansawdd a phroffesiynoli.

Bywgraffiad


Mae David Orrego-Carmona yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Aston (y DU) ac yn gydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Free State (De Affrica). Mae ei ymchwil yn ymdrin â chyfieithu, technolegau a defnyddwyr yn ogystal ag integreiddio gwyddor agored i ymchwil astudiaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Mae ei ymchwil yn dadansoddi sut mae technolegau cyfieithu'n grymuso cyfieithwyr proffesiynol a rhai nad ydynt yn broffesiynol a sut mae democrateiddio technoleg yn caniatáu i ddefnyddwyr cyfieithu ddod yn gyfieithwyr nad ydynt yn broffesiynol. Mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd mae diffyg proffesiynoldeb yn effeithio ar gyfieithu cymdeithasol, cyfieithu proffesiynol a hyfforddi cyfieithwyr.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Dr Orrego-Carmona.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 29 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad

Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn