Ewch i’r prif gynnwys

Sibrydion: Democratiaeth hwyr a safle'r llais

Dydd Iau, 5 Tachwedd 2020
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Stock image of megaphone

Seminar ymchwil rhithwir a gynhelir gan y Ganolfan ar gyfer Beirniadaeth Ideoleg (MLANG, Caerdydd) o dan y thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol gyfan gyda'r Athro Federico Leoni (Verona) fel siaradwr gwadd.

Crynodeb
Mae'r drafodaeth yn canolbwyntio ar y cysyniad o 'lais' fel y datblygwyd gan Jacques Lacan yn Seminar X er mwyn archwilio ystyr yr adlewyrchiad hwn ar gyfer yr argyfwng o ddemocratiaeth gyfoes. Mae'r traethawd yn trafod y cysyniad hynafol o 'lais y bobl', arwyddocâd newyddion ffug cyfoes a'i 'sŵn cefndirol' cyson, yn ogystal â dimensiwn sibrydion y byddai, yn ystod cyfnod pan fo democratiaeth gynrychioliadol o dan bwysau, i’w gweld yn gyfansoddol o ffurf 'gwbl fynegiannol' ar wleidyddiaeth.

Bywgraffiad
Mae Federico Leoni yn addysgu athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Verona, yr Eidal. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anthropoleg athronyddol a damcaniaethau cyfoes o oddrychedd.

Diwylliannau Argyfwng
Noda llefarydd nofel ôl-Brexit Ali Smith Autumn (2016) wrth drafod y mudiad cyfoes: ‘It was the worst of times, it was the worst of times. Again.’ Yma, mae Smith yn mynegi nid yn unig y synnwyr bod y gorffennol diweddar wedi bod yn llawn argyfyngau di-ddiwedd (o argyfwng bancio 2007-2008 i bandemig presennol Covid-19), ond hefyd (gan gyfeirio at Dickens) yn cydnabod mai dim ond drwy gofio'r gorffennol diweddar iawn mae modd deall ein sefyllfa argyfyngus bresennol fel un newydd.

Os yw Smith yn gofyn i ni gael ychydig o bersbectif, gall fod hefyd yn wahoddiad i archwilio ein hymateb i'r argyfwng. Yn wreiddiol yn derm a ddefnyddiwyd mewn meddygaeth i nodi trobwynt clefyd, oedd yn arwain at wellhad neu farwolaeth, yn ei wraidd Groegaidd mae'r gair yn cynnwys y ferf krinein, sy'n golygu beirniadu neu wahaniaethu. Felly, mae argyfwng hefyd yn fater o wneud penderfyniad. Fel gyda phandemig presennol Covid, gall ysgogi newidiadau radical yn yr un modd ag y mae'n awgrymu diwygiad terfynol. All 'yr adegau gwaethaf' arwain at 'yr adegau gorau'? A sut mae'r argyfwng yn ein helpu i ddychmygu'r opsiynau eraill hynny?

Yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, fydd yn cael ei harwain gan dair thema ymchwil, sy'n mynd i'r afael â'n cysyniad o argyfwng, a'n hymatebion i hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol. Bydd y digwyddiadau'n gofyn sut caiff ein ymdeimlad o argyfwng a'i bosibiliadau eu cyfleu mewn ystod o gyfryngau a disgyrsiau. Bydd pob digwyddiad ar-lein ac yn rhad am ddim. Bydd angen cofrestru, a bydd recordiadau ar gael ar sianel YouTube yr Ysgol.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 22 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn