Ewch i’r prif gynnwys

Darlith ar Hanes Pobl Dduon ac Affrica

Dydd Mercher, 14 October 2020
Calendar 17:15-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dyma'r ail o set o bedair Cyfres Mis Hanes Pobl Dduon: Rhan II: Cyfraniad: Hanes Diwylliannau a Gwareiddiadau Uwch yn Hynafiaeth Affrica
Cyflwyniad i Hanes Affricanaidd a Phobl Dduon gan yr hanesydd Abu-Bakr Madden Al-Shabbaz er mwyn cydnabod a dathlu Hanes Pobl Dduon 2020
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar arferion diwylliannol uwch pobl dduon ar gyfandir Affrica megis: Kemet Hynafol (Yr Aifft), Nubia, Kush, Carthage, yr Ymerodraeth Mwraidd, Mali a Songhay. Byddwn hefyd yn trafod diwylliannau uwch Affricanaidd yn Asia megis: Sumer a'r Elam, sydd bellach yn cael eu galw yn Mesopotamia a Persia. Er bod ysgolheictod Ewropeaidd yn ystyried Affricanwyr yn gyntefig, yn anwar ac yn farbaraidd ac yn ystyried eu hunain yn ddiwylliedig ac yn wareiddiedig; bydd yr is-adran hwn yn ystyried y realiti o bobl dduon yn adeiladu ymerodraethau tra bod pobl wyn yn dal yn byw mewn ogofâu yn Ewrop yn ystod yr oesoedd tywyll, ac yn methu â chynhyrchu strwythurau pren a cherrig sylfaenol. Bydd y bennod hon yn cyflwyno dysgwyr i'r gwareiddiadau cyntaf neu gynharaf a grëwyd gan Affricanwyr du - yn annibynnol, er mwyn sefydlu cymdeithas diwylliannol uwch o adegau hynafol, o Nimrod, y brenin du cyntaf.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Black History Month