Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Agoriadol: Dad-drefedigaethu Astudiaethau Ardal

Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2020
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Global language based area studies stock image

Darlith gyhoeddus ar-lein gyda'r Athro Ambreena Manji, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n cael ei chynnal gan thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang sy'n seiliedig ar yr Iaith, o dan thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol gyfan.

Mae llawer o gyllid datblygu rhyngwladol yn deillio o berthnasoedd anghyfartal rhwng gogledd a de’r byd, ac yn eu parhau. Sut allwn ailfeddwl y fath ffrydiau cyllido; dad-drefedigaethu astudiaethau ardal a chyflwyno safbwyntiau newydd?

Mae rhagor o wybodaeth am yr Athro Ambreena Manji ar gael ar wefan y brifysgol.

Diwylliannau Argyfwng
Noda llefarydd nofel ôl-Brexit Ali Smith Autumn (2016) wrth drafod y mudiad cyfoes: ‘It was the worst of times, it was the worst of times. Again.’ Yma, mae Smith yn mynegi nid yn unig y synnwyr bod y gorffennol diweddar wedi bod yn llawn argyfyngau di-ddiwedd (o argyfwng bancio 2007-2008 i bandemig presennol Covid-19), ond hefyd (gan gyfeirio at Dickens) yn cydnabod mai dim ond drwy gofio'r gorffennol diweddar iawn mae modd deall ein sefyllfa argyfyngus bresennol fel un newydd.

Os yw Smith yn gofyn i ni gael ychydig o bersbectif, gall fod hefyd yn wahoddiad i archwilio ein hymateb i'r argyfwng. Yn wreiddiol yn derm a ddefnyddiwyd mewn meddygaeth i nodi trobwynt clefyd, oedd yn arwain at wellhad neu farwolaeth, yn ei wraidd Groegaidd mae'r gair yn cynnwys y ferf krinein, sy'n golygu beirniadu neu wahaniaethu. Felly, mae argyfwng hefyd yn fater o wneud penderfyniad. Fel gyda phandemig presennol Covid, gall ysgogi newidiadau radical yn yr un modd ag y mae'n awgrymu diwygiad terfynol. All 'yr adegau gwaethaf' arwain at 'yr adegau gorau'? A sut mae'r argyfwng yn ein helpu i ddychmygu'r opsiynau eraill hynny?

Yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, fydd yn cael ei harwain gan dair thema ymchwil, sy'n mynd i'r afael â'n cysyniad o argyfwng, a'n hymatebion i hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol. Bydd y digwyddiadau'n gofyn sut caiff ein ymdeimlad o argyfwng a'i bosibiliadau eu cyfleu mewn ystod o gyfryngau a disgyrsiau. Bydd pob digwyddiad ar-lein ac yn rhad am ddim. Bydd angen cofrestru, a bydd recordiadau ar gael ar sianel YouTube yr Ysgol.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 21 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn