Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Dr Deborah Hann

Dydd Iau, 8 October 2020
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

“Er mwyn i’r adferiad economaidd o argyfwng COVID-19 for yn wydn ac yn gydnerth, rhaid osgoi dychwelyd i ‘fusnes fel arfer’”

Os dim byd arall, mae 2020 wedi ein dysgu bod bywyd yn anrhagweladwy. Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn fwyfwy yw sut rydyn ni’n dechrau adeiladu gwytnwch yn ein cymunedau i helpu delio a sefyllfaoedd annisgwyl. Yr hyn sy’n amlwg yw nad mwy o’r un peth yw’r ffordd gywir o reidrwydd.

Bydd y sesiwn dros Frecwast hwn yn cynnig cyfle i gyflogwyr ystyried opsiynau ar gyfer adeiladu gwytnwch busnes, cefnogi’r gymuned ac, yn y pen draw, adeiladu Cymru well.

Bwriad y sesiwn yw darparu ystod o syniadau ymarferol i symud i ffwrdd o fusnes fel arfer, er mwyn datblygu ymateb cynaliadwy. Bydd y sesiwn yn cynnwys siaradwyr ar leoedd Cyflog Byw (https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Your-Council/Strategies-plans-and-policies/Living-Wage/cardiff-living-wage-city/Pages/default.aspx); Compact Swyddi Cymunedol (https://www.cynnalcymru.com/launch-of-the-community-jobs-compact/) a chynlluniau Arbed a Benthyg cyflogres. Mae pob cynllun yn cefnogi’r economi leol mewn ffordd wahanol, ond yn bwysicach, mae pob cynllun yn gam bach at ail-adeiladu yn well.

Yn sail i’r sesiwn bydd profiad ymarferol, a dealltwriaeth ymchwil. Bydd cyflogwyr sydd eisoes wedi ymrestru â’r cynlluniau yn trafod eu profiadau gyda’r gynulleidfa i dynnu sylw at y buddion i bawb. Bydd cyfle i glywed gan weithwyr i glywed am yr hyn mae’r cynlluniau yn eu golygu iddyn nhw. Yn olaf, bydd y sesiwn hefyd yn cynnig cyfle i’r gynulleidfa i ofyn cwestiynau ynghylch sut y gall y cynlluniau yma weithio iddyn nhw, i rannu profiadau, a’u helpu i gymryd y cam nesaf tuag at Gymru gynaliadwy.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education