Ewch i’r prif gynnwys

Bôn-gelloedd Canser y Fron: dod o hyd i therapïau canser wedi'u targedu

Dydd Iau, 22 October 2020
Calendar 17:00-17:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Banner image

Mae Sefydliad Bôn-gelloedd Canser Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i rôl poblogaeth unigryw o gelloedd mewn tiwmor, a allai gynnig ffordd i greu therapïau llwyddiannus wedi'u targedu ar gyfer sawl math o ganser. Ymunwch â Dr Richard Clarkson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad a'r Cydymaith Ymchwil, Dr Giusy Tornillo, fydd yn trafod eu hymchwil i fôn-gelloedd canser ym maes canser y fron a'u rôl mewn metastasis, lledaeniad tiwmorau niweidiol o amgylch y corff. Ni all y therapïau presennol wella canser metestatig y fron ac, yn anffodus, mae'r gyfradd oroesi gyfartalog ar gyfer cleifion yn isel.

Mae gwaith Dr Clarkson a Dr Tornillo yn ymwneud â deall y newidiadau sy’n digwydd o fewn celloedd tiwmor sy’n achosi iddynt ledaenu, a datblygu strategaethau therapiwtig newydd i naill ai atal hyn rhag digwydd, neu i gael gwared ar y celloedd yn llwyr.

Gallai deall tarddiad a bioleg bôn-gelloedd canser mewn canser y fron agor llwybrau newydd wrth i Brifysgol Caerdydd geisio dod o hyd i driniaethau personol i gleifion a chanfod ffordd o atal y lledaeniad yn gyfan gwbl yn y pen draw

Rhannwch y digwyddiad hwn