Ewch i’r prif gynnwys

Polisi bwyd ar adeg o argyfwng: beth fydd y dyfodol? Trafodaethau am bolisi bwyd - Rhan 1

Dydd Gwener, 16 October 2020
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Market

Gweminar Ryngwladol

Mae argyfwng byd-eang 2020 wedi gwneud pob un ohonom yn ymwybodol nad yw 'parhau â’r un drefn' yn opsiwn ar gyfer polisi bwyd yn y dyfodol.

Sut ydym wedi cyrraedd y sefyllfa yr ydym ynddi nawr, o ran y bwyd a fwytawn, o ble rydym yn cael ein bwyd, a'r effaith a gaiff ar ein planed?  Sut olwg ddylai fod ar ddyfodol wedi'i drawsnewid?  Pa gamau y gallwn pob un ohonom eu cymryd, ar y cyd ac yn unigol, i greu system fwyd gynaliadwy a theg sy'n well i'n hiechyd, yr amgylchedd, cymdeithas a'r economi?

Mae ein panel nodedig o arbenigwyr yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer newid y system yn radical ac yn rhoi eu barn ar y ffyrdd ymarferol sydd eu hangen i'w gyflawni.  Byddwch chi, y gynulleidfa fyd-eang, yn gallu gofyn cwestiynau a chyfrannu yn ystod y drafodaeth.

Ein panelwyr arbenigol yw:

  • Yr Athro Tim Lang – Athro Polisi Bwyd ym Mhrifysgol Dinas Llundain, Comisiynydd Comisiwn EAT-Lancet, a gyhoeddodd yr adroddiad 'Bwyd yn yr Anthroposen' sydd wedi’i ganmol yn fawr (The Lancet, 2019)
  • Yr Athro Terry Marsden– Athro Polisi Amgylcheddol a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd (Cymru, y DU), Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy (2010-2020) a Chadeirydd y Panel Cynghori a fu'n goruchwylio adolygiad systematig llawn o dirwedd polisi bwyd Ewrop yn ddiweddar (SAPEA, 2020)
  • Yr Athro Katrien Termeer – Cadeirydd y Grŵp Gweinyddu Cyhoeddus a Pholisi ym Mhrifysgol Ymchwil Wageningen (Iseldiroedd), Aelod o'r Grŵp Arbenigol a gynhaliodd adolygiad tystiolaeth cynhwysfawr yn ddiweddar ar Systemau Bwyd Cynaliadwy (SAPEA, 2020)
  • Yr Athro Carina Keskitalo – Athro Gwyddor Gwleidyddol ym Mhrifysgol Umea (Sweden), Aelod o Grŵp y Prif Gynghorwyr Gwyddonol a gyhoeddodd Farn Wyddonol ac argymhellion polisi yn ddiweddar ar gyfer system fwyd gynaliadwy Ewropeaidd (y Comisiwn Ewropeaidd, 2020)

Yr Athro Ole Petersen, Is-lywydd Academia Europaea yw’r Cadeirydd a'r cymedrolwr

Dyluniwyd y gweminar i gefnogi:

  • Diwrnod Bwyd y Byd, 16 Hydref. Mae #DiwrnodBwydYByd yn lansio galwad am undod byd-eang i helpu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed i wella, a gwneud systemau bwyd yn fwy cynaliadwy, yn gryfach ac yn fwy gwydn i rwystrau.
  • Wythnos Werdd yr UE 2020, sy'n canolbwyntio ar thema natur a bioamrywiaeth.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres gweminarau SAPEA ar systemau bwyd cynaliadwy. Cynhelir y digwyddiad dilynol, Trafodaethau ar bolisi bwyd – Rhan 2: Tuag at system fwyd gynaliadwy: rôl yr UE yn y cyfnod pontio byd-eang, ar 22 Hydref..

Rhannwch y digwyddiad hwn